Cwynion am Fwyd neu Mangreoedd Bwyd

Sut mae cwyno am eitem o fwyd

Os ydych chi wedi prynu eitem o fwyd yr ydych yn credu ei fod wedi ei heintio rhyw fodd neu'i gilydd, byddwn yn ystyried pwysigrwydd y gwyn ac yn penderfynu a yw'n debygol y bydd yn ddigon difrifol i gyfiawnhau ymchwiliad gan ein Hadran.

Dyma enghreifftiau o'r pethau yr ydym yn ymchwilio iddynt:

  • Pethau dieithr mewn bwyd (e.e., cerrig, gwydr, pryfaid, gwallt, plastrau, bonion sigaréts, ac ati.)
  • Bwyd mewn cyflwr gwael (e.e. llwydni, yn pydru, gwynt drwg ac ati)
  • Bwyd sydd heibio i'w ddyddiad 'Defnyddio Erbyn' neu y mae amheuaeth ei fod wedi rhoi tostrwydd i rywun.

Os ydych chi am wneud cwyn am eitem o fwyd yr ydych wedi ei brynu yn Sir Benfro, rydych yn gallu: 

Cofiwch gadw'r bwyd yn ei gynhwysydd gwreiddiol a chadw'r dderbynneb am y bwyd os oes un gyda chi.  Os yw'r darn o fwyd yn un o nifer o unedau (e.e. un potyn o iogwrt o becyn o bedwar) mae cadw'r rhain yn ddefnyddiol hefyd.

ID: 1559, adolygwyd 17/03/2023