Cwynion am weithleoedd a gweithgareddau gwaith
Cwynion ynghylch gweithleoedd a gweithgareddau gwaith
Mae'r Tîm Iechyd a Diogelwch yn derbyn cwynion o amrywiaeth o ffynonellau sy'n cynnwys cwynion gan weithwyr ac aelodau'r cyhoedd ynghylch gweithleoedd a gweithgareddau gwaith. Mae cwynion yn gallu ymwneud ag ystod eang o faterion, o fethiant gan gyflogwr i ddarparu cyfarpar gwarchod personol priodol neu gyfleusterau toiled digonol, i gwynion ynghylch amodau gwaith cyffredinol megis cynnal a chadw gwael ar gyfer offer, peryglon trydanol, peryglon llithro a/neu faglu ac ati.
ID: 1499, adolygwyd 15/11/2022