Cwynion am weithleoedd a gweithgareddau gwaith

Cwynion – pa rai ydyn ni’n ymchwilio iddynt?

Mae'r Awdurdod yn cydnabod nad yw'n bosibl nac yn angenrheidiol at ddibenion Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a.y.b. 1974 i fynd i'r afael â phob achos o fethiant i gydymffurfio â'r gyfraith. I gynnal ymateb cymesur, bydd y meini prawf ar gyfer dewis cwynion ar gyfer eu hymchwilio o anghenraid yn targedu materion mwy difrifol, er mwyn peidio ag amharu ar gydbwysedd cyffredinol yr adnoddau rhwng gwaith ataliol a gwaith ymatebol.

Wrth ddewis pa gwynion i'w hymchwilio ac wrth benderfynu ar lefel yr adnoddau i'w defnyddio, bydd y Cyngor yn ystyried y ffactorau a nodir yn y polisi gorfodi - Iechyd a Diogelwch Polisi Gorfodi.

ID: 1500, adolygwyd 15/11/2022