Cwynion am weithleoedd a gweithgareddau gwaith
Polisi Ymateb
Nod y Tîm Iechyd a Diogelwch yw:
- Ymateb i geisiadau am wasanaeth brys o fewn un diwrnod gwaith,
- Ymateb i geisiadau nad ydynt yn rhai brys o fewn pum diwrnod gwaith, a
- Chyflawni'r safon hon mewn 95% o'r holl achosion.
Mae'n bosibl y bydd yr ymateb ar ffurf galwad ffôn neu ymweliad personol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau ym mhob achos. Caiff llythyrau eu cydnabod o fewn tri diwrnod gwaith gydag ymateb sylweddol i ddilyn o fewn 15 diwrnod gwaith.
ID: 1501, adolygwyd 15/11/2022