Cwynion am weithleoedd a gweithgareddau gwaith
Sut y gallaf gwyno am dorri deddfwriaeth?
Os ydych yn meddwl bod cyflogwr neu berson hunangyflogedig yn eich gwneud chi neu bobl eraill yn agored i beryglon, neu os nad ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol, gallwch gysylltu â ni neu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os arolygir y gweithle ganddynt.
Gellir cysylltu â'r Tîm Iechyd a Diogelwch gan ddefnyddio ffurflen gwyno ar-lein neu'r manylion cyswllt isod.a
Cwynion am ein gwasanaeth rheoleiddio
Os ydych yn dymuno herio rhybudd gorfodi ffurfiol a gyflwynwyd i chi gan un o'n harolygwyr awdurdod lleol (h.y. Hysbysiad Gwella neu Rybudd Gwahardd), mae proses gyfreithiol benodol y mae'n rhaid i chi ei dilyn. Dylech fod wedi cael gwybod am hyn pan gyflwynwyd y rhybudd. Mae'n rhaid i chi wneud unrhyw apêl yn brydlon oherwydd bod terfynau amser llym.
Os byddwch yn cael eich erlyn gan yr Awdurdod Lleol am droseddau Iechyd a Diogelwch, byddwch yn gallu herio ein camau drwy'r llysoedd. Mae'n rhaid i'r Awdurdod Lleol ddarparu gwybodaeth benodol i chi o flaen llaw i'ch galluogi chi i amddiffyn eich hun.
Os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â ni ac yn anfodlon â'r ffordd rydym wedi delio â chi, rydym eisiau gwybod. Lle bo hynny'n briodol, byddwn yn ceisio dod o hyd i ateb, a byddwn bob amser yn croesawu awgrymiadau i'n helpu i wella ein perfformiad.
Os yw arolygydd wedi rhoi cyngor ysgrifenedig i chi a gofyn i chi gymryd camau i unioni pethau (ond heb gyflwyno hysbysiad gorfodi) ac rydych chi'n anghytuno, yn gyntaf dylech drafod hyn gyda nhw. Os nad ydych yn gallu datrys y broblem gyda'r person y buoch yn delio â nhw, mae'n bosibl y byddwch eisiau siarad â'r:
Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd (Diogelu Defnyddwyr ac Iechyd)
Adran Diogelu'r Cyhoedd
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Ffôn: (01437) 775636
e-bost: healthandsafety@pembrokeshire.gov.uk
Bydd y Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd (Diogelu Defnyddwyr ac Iechyd) yn ystyried eich cwyn a dweud wrthoch chi pa gamau a awgrymir. Caiff y rhan fwyaf o gwynion eu datrys fel hyn, ar unwaith yn aml.
Os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch geisio cael y mater i'w ystyried o dan weithdrefn gwynion gorfforaethol yr Awdurdod, ac mae'r manylion i'w cael yma: Cwynion. Mae'r weithdrefn hon yn cynnwys cyngor ar sut i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (gweler isod).
Os ydych yn dal yn anfodlon, ar ôl codi'r mater gyda'r Awdurdod o dan ein gweithdrefn gwynion ffurfiol, gallwch geisio cael ateb drwy godi'r gwyn gyda'r Panel Annibynnol Heriau Rheoleiddiol.
Dulliau eraill o unioni cam
Hefyd gallwch ofyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru adolygu eich cwyn. Eu rôl yw ystyried cwynion am awdurdodau lleol (a sefydliadau eraill) nad ydynt wedi gweithredu'n briodol neu'n deg, neu sydd wedi darparu gwasanaeth gwael.
Yn olaf, gallwch geisio Adolygiad Barnwrol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r:
Tîm Iechyd a Diogelwch
Adran Diogelu'r Cyhoedd
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP.
Ffôn: (01437) 775179
e-bost: healthandsafety@pembrokeshire.gov.uk