Anfodlonrwydd mewn perthynas â Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
Nid yw’r polisi canmoliaethau, pryderon a chwynion yn berthnasol i geisiadau rhyddid gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Ymdrinnir â chwynion sy’n ymwneud â’r broses hon fel cais am adolygiad mewnol yn unol â deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth/Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm rhyddid gwybodaeth ar 01437 77 6684 neu drwy anfon e-bost i FOI@pembrokeshire.gov.uk
- Fe gewch gydnabyddiaeth o fewn 3 diwrnod gwaith
- Bydd panel adolygu annibynnol yn ystyried eich adolygiad mewnol o fewn 20 diwrnod gwaith. Os na allwn ateb o fewn 20 diwrnod gwaith byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud pam a phryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn
Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb, mae gennych hawl i gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth, corff annibynnol a benodwyd gan y llywodraeth i ymchwilio i bryderon yn ymwneud â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.
Bydd y comisiynydd eisiau gwybod a ellir setlo eich adolygiad mewnol rhyngoch chi a Chyngor Sir Penfro cyn dechrau ymchwiliad, felly rhowch gynnig ar y weithdrefn hon yn gyntaf.
Cyfeiriad y Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Swyddog y Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
2nd Floor, Tŷ Churchill,
Ffordd Churchill,
Caerdydd.
CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
E-bost: wales@ico.org.uk