Canmoliaeth a Sylwadau

Prif nod y Cyngor yw sicrhau ‘bodlonrwydd cwsmeriaid’, ac os ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym wedi delio â chi, rhowch wybod i ni. Gallwn ddefnyddio'r ffordd honno o weithio mewn adrannau eraill o'r Cyngor. Hefyd, os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar sut y gallem wneud pethau'n well, rhowch wybod i ni. Gallwn ystyried eich awgrymiadau er mwyn gweld sut y gallai pethau weithio'n well. Gallwch gyflwyno’ch canmoliaeth neu sylwadau drwy’r naill neu’r llall o’r llwybrau canlynol:

Anfon neges e-bost i: compliments@pembrokeshire.gov.uk

Cwblhau ffurflen ar-lein: Canmoliaeth / Ffurflen Sylwadau

Yn ysgrifenedig i: Canmoliaeth a Sylwadau, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP

Drwy ffonio ein canolfan gyswllt: 01437 764551

Bydd eich canmoliaeth yn cael ei chofnodi a’i throsglwyddo i’r rheolwr gwasanaeth perthnasol i’w rhannu â’r tîm er mwyn sicrhau bod gwasanaeth cwsmeriaid da yn cael sylw ac yn cael ei gydnabod. Byddwn yn ystyried a oes dysgu ehangach y gellir ei gymryd o’ch adborth a’i rannu â gwasanaethau fel y bo’n briodol. Byddwn yn cyhoeddi rhai sylwadau a chanmoliaethau dienw, oni bai eich bod yn gofyn yn benodol i ni beidio â gwneud hynny. Byddwch yn cael cydnabyddiaeth o fewn 15 diwrnod gwaith i roi gwybod i chi am unrhyw gamau gweithredu pellach yr ydym yn bwriadu eu cymryd o ganlyniad i’ch adborth.

ID: 522, adolygwyd 09/08/2024