Cwynion
Cwynion syn ymwneud a Rhyddid Gwybodaeth
Os ydych yn dymuno cwyno am nad ydym wedi darparu'r wybodaeth y gofynnoch amdani neu y bu oedi cyn darparu'r wybodaeth, cysylltwch â: Jennifer Brown, Uwch Swyddog Llywodraethu Gwybodaeth ar 01437 77 6684 neu FOI@pembrokeshire.gov.uk
- Byddwch yn cael cydnabyddiaeth o fewn tri diwrnod gwaith
- Bydd Panel Adolygu annibynnol yn ymchwilio i'ch cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Os nad ydym yn gallu ymateb o fewn 20 diwrnod, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud pam a phryd y gallwch ddisgwyl ymateb llawn
Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, mae gennych hawl i gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth, person annibynnol a benodwyd gan y llywodraeth i ymchwilio i gwynion sy'n ymwneud â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Bydd y Comisiynydd am wybod a all eich cwyn gael ei datrys rhyngoch chi a Chyngor Sir Penfro cyn dechrau ymchwiliad
Felly rhowch gynnig ar ein gweithdrefn gwyno yn gyntaf.
Cyfeiriad y Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Swyddog y Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr,
Tŷ Churchill,
Ffordd Churchill,
Caerdydd.
CF10 2HH
Ffôn: 02920 678400
Ffacs: 02920 678399
E-bost: wales@ico.gsi.gov.uk