Cwynion yn erbyn Cynghorwyr ac Aelodau Lleyg

Cwynion Ynghylch Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref/Cymuned

Mae'n ofynnol i bob Cynghorydd Sir, Cynghorydd Tref/Cymuned ac Aelod Cyfetholedig gadw at y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr a fabwysiadwyd gan eu priod gynghorau ac sy'n cydymffurfio â gofynion gorfodol y Cod Ymddygiad Enghreifftiol a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cewch hyd i gopi o God Ymddygiad Cyngor Sir Penfro yn Rhan 5 y Cyfansoddiad. Bydd gan gynghorau tref/cymuned eu Cod Ymddygiad eu hunain neu byddant wedi'u rhwymo i'r Cod Enghreifftiol a geir yng Ngorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 sydd ar gael yn Ddeddfwriaeth.gov

Cyfrifoldeb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) yn unig yw gorfodi yn erbyn achosion o dorri’r cod). Ni all prif awdurdod na chyngor tref/cymuned ymchwilio i honiad bod cynrychiolydd etholedig wedi torri’r cod ymddygiad. Gellir anfon cwynion yn ymwneud â honiad bod cynghorydd wedi torri’r cod at yr Ombwdsmon. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn cyhoeddi canllawiau ar ei gwefan ar sut i wneud cwyn. Manylion cyswllt yr Ombwdsmon yw:

Ombwdsmon Cymru gwefan (yn agor mewn tab newydd)

E-bost: holwch@ombwdsmon.cymru    

Cyfeiriad: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ

Rhif ffôn: 0300 790 0203

Os bydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i honiad o dorri’r cod ac yn dod i’r casgliad bod y cod wedi’i dorri, bydd yn anfon adroddiad o’i ganfyddiadau at Bwyllgor Safonau’r cyngor sir er mwyn iddo benderfynu a dorrwyd y cod ai peidio, ac os felly, beth fyddai sancsiwn priodol. Yr opsiynau sydd ar gael yw dim gweithredu pellach; cerydd a gwahardd am hyd at chwe mis. Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod y toriad yn un o gategori difrifol, yna gellir anfon yr adroddiad ymlaen at Banel Dyfarnu Cymru, sydd â’r pŵer i wahardd cynghorydd.

 

Swyddog Monitro

O ran cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch toriad honedig o’r Cod Ymddygiad gan Gynghorydd, dylid anfon copi o’r gŵyn i’r Swyddog Arolygu hefyd.

Bydd cwynion sy’n cynnwys honiad o doriad o unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol gan awdurdod hefyd yn cael eu cyfeirio at y Swyddog Arolygu gan y swyddog cyswllt cwynion perthnasol.

Rhian Young, Swyddog Monitro

Ffôn: 01437 775595

E-bost: rhian.young@pembrokeshire.gov.uk

ID: 515, adolygwyd 09/08/2024