Hawdd i'w Darllen - Taflen Ffeithiau Canmoliaeth, Pryderon a Chwynion
Cwyn yw pan fyddwch yn dweud wrth berson neu sefydliad eich bod yn anhapus am rywbeth. Er enghraifft, am wasanaeth neu'r ffordd rydych wedi cael eich trin.
Pan fyddwch yn anhapus gyda'ch gwasanaeth, gallwch ddweud wrthym. Byddwn yn ymdrin â'ch cwyn mewn ffordd benodol ac o fewn amser penodol.
Cwyn yw o’r canlynol:
- Pan nad ydych yn hoff o rywbeth am eich cymorth
- Pan nad ydych yn derbyn y cymorth yr ydych wedi gofyn amdano
- Pan fyddwch wedi siarad â rhywun sydd wedi dweud rhywbeth wrthych nad ydych yn ei hoffi
- Mae modd i chi neu grŵp o bobl gwneud cwyn
Nid yw cwyn yn un o’r canlynol:
- Ni allwch ddefnyddio cwyn i geisio newid y gyfraith neu benderfyniadau polisi
- Ni allwch wneud cwyn am wasanaeth nad ydych yn ei dderbyn
- Nid yw cwyn yn adolygiad neu apêl yn erbyn penderfyniad
- Ni ddylech ddefnyddio cwyn i ofyn am wasanaethau
Eich gwybodaeth:
Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth amdanoch gyda’r bobl sy’n ymdrin â’ch cwyn oni bai ei fod yn ofunnol yn ôl y gyfraith.
Sut i Gwyno: Gallwch gwyno drwy:
Cyfeiriad: Cwynion, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
E-bost: socialcarecomplaints@pembrokeshire.gov.uk / corporatecomplaints@pembrokeshire.gov.uk
Ar-lein: Ffurflen Pryder / Cwyn
Cam 1: Datrysiad Anffurfiol
Cwynion Corfforaethol –
Byddwn yn rhoi gywbod ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn 5 niwrnod gwaith. Byddwn yn anfon ymateb i’ch cwyn o fewn 10 niwrnod gwaith.
Cwynion y gwasanaethau cymdeithasol –
Byddwn yn rhoi gywbod ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn 2 niwrnod gwaith. Byddwn yn anfon ymateb i’ch cwyn o fewn 15 niwrnod gwaith.
Os nad ydych hapus gyda’n hymateb, gallwch ofyn am gŵyn Cam 2.
Cam 2: Ymchwiliad Ffurfiol
Cwynion Corfforaethol –
Byddwn yn rhoi gywbod ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn 5 niwrnod gwaith. Byddwn yn anfon ymateb i’ch cwyn o fewn 20 niwrnod gwaith.
Cwynion y gwasanaethau cymdeithasol –
Byddwn yn rhoi gywbod ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn 5 niwrnod gwaith. Byddwn yn anfon ymateb i’ch cwyn o fewn 25 niwrnod gwaith.
Beth sy’n digwydd yn ystod ymchwiliad ffurfiol?
Bydd y swyddog cwynion yn cofnodi’ch cwyn a’r canlyniad yr hoffech ei gyflawni.
Ni fydd yr ymchwiliad yn cychwyn nes y byddwch chi a’r cyngor yn cytuno ar yr hyn sydd i’w ymchwilio.
Bydd rhywun o’r cyngor yn edrych ar eich cwyn os oes gennych gŵyn corfforaethol.
Bydd rhywun y tu allan i’r cyngor yn edrych ar eich cwyn os oes gennych gŵyn am ofal cymdeithasol.
Bydd angen i’r unigolyn sy’n edrych ar eich cwyn gwneud y canlynol:
- Cael yr holl ffeithiau sydd ynghlwm â’ch cwyn.
- Cyfweld â phob yn sy’n rhan o’r gŵyn.
- Ysgrifenny adroddiad i’r cyngor.
Bydd y cyngor yn darllen yr adroddiad ac yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych pa benderfyniad a waned.
Bydd y cyngor yn dweud a ydynt yn cytuno â’ch cwyn a nodi’r newidiadau a fydd yn cael eu gwneud.
Bydd y cyngor yn esbonio’r rhesymau os nad ydynt yn cytuno â’ch cwyn.
Beth os nad ydwyf yn fodlon wedyn?
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn adolygu cwynion. Os nad ydych yn hapus gyda’n hymateb gallwch anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon.
Gwefan: Ombwdsmon Cymru (yn agor mewn tab newydd)
E-bost: holwch@ombwdsmon.cymru
Cyfeiriad: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
A yw’n bosinl gofyn am gymorth gyda’r gŵyn?
Bydd modd i rai oedolion a phlant gael eiriolwr i’w helpu I sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Os hoffech dderbyn cymorth i ddod o hyd i eiriolwr, mae croeso i chi ffonio 01437 764551 a byddwn yn hapus i’ch helpu.
Efallai y byddwch am godi problem gyda ni, rydym yn galw’r pryderon hyn
Gallwch rannu hyn gyda ni drwy:
E-bost: socialcarecomplaints@pembrokeshire.gov.uk / corporatecomplaints@pembrokeshire.gov.uk
Ar-lein: Ffurflen Pryder / Cwyn
Ffôn: 01437 764551
Letter: Cwynion, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Beth os hoffwn i ddiolch i rywun?
Os ydych chi’n hapus gyda rhywbeth mae rhywum wedi’i wneud i chi, gallwch roi gwybod i ni am hyn:
E-bost: compliments@pembrokeshire.gov.uk
Ar-lein: Canmoliaeth / Ffurflen Sylwadau
Ffôn: 01437 764551
Cyfeiriad: Canmoliaeth, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP