Cwynion

Sut Alla'i Gwyno?

Os oes gennych gŵyn am wasanaeth (nad yw'n gŵyn yn ymwneud ag Ysgolion na chŵyn yn ymwneud a Rhyddid Gwybodaeth) yr ydych wedi ei gael neu eich bod yn credu y dylech fod wedi ei gael, yna dilynwch y camau a amlinellir yn y daflen hon:

Y Cam Anffurfiol

  1. Trafodwch eich pryderon â'r aelod o staff sy'n delio â'ch mater neu â'i oruchwylydd uniongyrchol, a nodwch le y teimlwch nad oedd darpariaeth y gwasanaeth o'r safon briodol a pha ganlyniad yr hoffech ei weld. Ffurlen Pryder/Cwyn
  2. Os nad ydych yn siŵr pwy i gysylltu ag ef, ffoniwch staff ein Canolfan Gyswllt ar (01437) 764551 a fydd yn hapus i'ch helpu
  3. Bydd eich pryderon yn cael eu hystyried o fewn 10 diwrnod gwaith

Gall y rhan fwyaf o broblemau gael eu datrys yn gyflym yn y modd anffurfiol hwn

Y Cam Ffurfiol

Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad y Cam Anffurfiol, rhowch wybod i'r Gwneud Cwyn Swyddogion Cyswllt dynodedig (gweler y rhestr ar y tudalennau canlynol) y rheswm dros eich anfodlonrwydd a pha ganlyniad yr hoffech ei weld. Atodir ffurflen gwyno i'r llyfryn hwn.

  1. Bydd y Swyddog Cyswllt Dynodedig yn cydnabod eich cwyn o fewn pum diwrnod gwaith
  2. Bydd y Swyddog Cyswllt Dynodedig yn penodi ymchwilydd i ymchwilio i'ch cwyn, ac mewn achosion cymhleth ac ar gyfer cwynion sy'n ymwneud â gwasanaeth a ddarparwyd i blentyn, gallai ymchwilydd allanol gael ei benodi. Byddwch fel arfer yn cael eich hysbysu o'r canlyniad o fewn 20 diwrnod gwaith
  3. Os nad ydym yn gallu ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith, byddwn yn ysgrifennu i ddweud wrthych pam a phryd y gallwch ddisgwyl ymateb llawn

Rydym yn gobeithio y bydd ein gweithdrefn gwyno yn helpu i ddatrys unrhyw broblemau a allai fod gennych o ran y ffordd y darperir ein gwasanaethau

Beth y gallaf ei wneud os byddaf am gwyno ymhellach?

Yn ein profiad ni, gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn fewnol drwy ein gweithdrefn gwyno. Fodd bynnag, mae gennych hawl i gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) ar unrhyw adeg yn y broses. 

Mae'r Ombwdsmon yn sefydliad annibynnol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i gwynion o gamweinyddu (arfer gwael) yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus. Bydd fel arfer am wybod a yw eich cwyn wedi ei hystyried o dan Bolisi Cwyno y Cyngor yn gyntaf, cyn dechrau ymchwiliad.

Felly rhowch gynnig ar ein gweithdrefn gwyno yn gyntaf  

Cyfeiriad yr Ombwdsmon yw:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1, Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5LJ

0845 6010987 (codir pris galwad leol)

ask@ombudsman-wales.org.uk

Ombwdsmon Cymru

 

ID: 511, adolygwyd 24/03/2023