Cwynion
Taflen Ffeithiau Cwynion
Edrych ar ôl eich data personol
Nid wyf yn siŵr at bwy y mae angen i mi gyfeirio fy nghwyn gorfforaethol?
Nid wyf yn siŵr at bwy y mae angen i mi gyfeirio fy nghwyn gofal cymdeithasol?
Ble dwi'n mynd os nad ydw i'n fodlon gydag ymateb y cyngor i fy nghwyn?
Beth os oes gennyf ganmoliaeth neu sylw?
Cwynion Gofal Cymdeithasol: Alla i wneud cwyn at rywun arall?
Cyngor a chymorth arall sydd ar gael i achwynwyr
Gwneud cwyn
Caiff unrhyw aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys plentyn, a oedd nail ai’n derbyn neu a oedd â hawl i dderbyn gwasanaeth gan y cyngor wneud cywn. Mae hwn hefyd yn berthnasol os yw’r sawl wedi dioddef oherwydd gweithredu amhriodol neu ddiffyg gweithredu gan y cyngor.
Gallwch hefyd wneud cwyn ar ran rhywun arall:
- Os yw’r unigolyn yn sâl neu wedi marw
- Os yw’r unigolyn yr blentyn
- Os nad oes gan yr unigolyn alluded (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005)
- Os yw’r unigolyn wedi gofyn i rywun weithredu ar ei ran
Rydym bob amser yn anelu at safonau uchel, ond weithiau mae pethau’n mynd o chwith. Os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth yr ydych wedi’i dderbyn, dywedwch wrthym. Yna, gallwn ddefnyddio’r adborth hwn i wella’n gwasanaethau. Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio sut bydd y cyngor yn gweithio gyda’n cwsmeriaid i ddatrys cwynion. Mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn dweud wrthym sut mae’n rhaid i ni wneud hyn
Beth yw cwyn?
Mynegiant o anfodlonrwydd neu bryder:
- Wedi’i ysgrifennu neu ar lafar neu ei wneud drwy unrhyw ddull cyfathrebu arall
- Wedi’i wneud gan un neu fwy o aelodau’r cyhoedd (rhywun neu grŵp sy’n derbyn gwasanaeth neu gwrthodwyd gwasanaeth y mae ganddo hawl iddo gan y darparwr gwasanaeth)
- Am weithredu neu ddiffyg gweithredu darparwr gwasanaeth cyhoeddus neu safon y gwasanaeth a ddarperir
- Rhywbeth sy’n gofyn am ymateb
Nid yw cwyn yn un o’r canlynol:
- Cais cychwynnol am wasanaeth
- Adolygiad neu apêl ffurfiol yn erbyn penderfyniad
- Modd o geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad polisi sydd wedi’i ‘wneud yn briodol’
- Modd i grwpiau/sefydliadau lobïo geisio hyrwyddo achos
- Cwyn a wneir gan gorff neu unigolyn nad yw’n derbyn gwasanaeth gan y cyngor ac nad yw’n gweithredu ar ran cwsmer
Edrych ar ôl eich data personol
Fel arfer, bydd angen i’r sawl sy’n edrych ar eich cwyn weld y ffeiliau sydd gennym sy’n berthnasol i’ch cwyn. Os nad ydych eisiau i hyn ddigwydd, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym. Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth oni bai ei fod yn ofynnol o dan y gyfraith, ac ni fyddwn ond yn trosglwyddo cymaint ag sy’n angenrheidiol. Gellir gweld yr Hysbysiad Preifatrwydd - Canmoliaeth, Pryderon A Chwynion
Proses gwyno
Fel rheol, gallwn ond roi sylw i’ch pryderon os ydych yn dweud wrthym amdanynt o fewn chwe mis (deuddeg mis ar gyfer cwynion gofal cymdeithasol). Y rheswm am hyn yw oherwydd ei bod hi’n well ymchwilio i’ch cwynion pan fydd y materion dal yn newydd ym meddyliau pawb. Beth bynnag, ni fyddwn yn ystyried unrhyw bryderon am faterion a ddigwyddodd fwy na thair blynedd yn ôl.
Gellir gwneud cwyn yn ysgrifenedig, ar lafar, neu drwy ddefnyddio ein Ffurflen Pryderon/Cwynion ar-lein neu drwy e-bost corporatecomplaints@pembrokeshire.gov.uk / socialcarecomplaints@pembrokeshire.gov.uk
Mae dau gam i'r broses gwyno:
Cam 1 – Anffurfiol
Cydnabyddir cwynion corfforaethol cyn pen 5 diwrnod gwaith. Yn dilyn hyn, dylech ddisgwyl derbyn ymateb cyn pen 10 diwrnod gwaith.
Ar gyfer cwynion Gofal Cymdeithasol, cydnabyddir cyn pen 2 ddiwrnod gwaith, mewn ymgais i ddatrys materion, byddwn yn cynnig trafod eich cwyn gyda chi (naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn) bydd y drafodaeth hon yn digwydd cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl y gydnabyddiaeth. Yn dilyn y drafodaeth, byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 5 diwrnod gwaith gydag ymateb.
Gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn gyflym ar y cam hwn. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch ofyn i’r cwyn gael ei symud ymlaen i Gam 2.
Cam 2 – Ffurfiol
Cydnabyddir cwynion corfforaethol cyn pen 5 diwrnod gwaith. Yna dylech chi ddisgwyl derbyn ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith.
Ar gyfer cwynion Gofal Cymdeithasol, cydnabyddir eich cwyn cyn pen 2 ddiwrnod gwaith. Yna dylech chi ddisgwyl derbyn ymateb i'ch cwyn o fewn 25 diwrnod gwaith.
Bydd y swyddog cyswllt cwynion dynodedig yn llunio cofnod ysgrifenedig ffurfiol o’ch cwyn a’r canlyniad yr hoffech ei gyflawni. Yna, penodir ymchwilydd i ymchwilio i’ch cwyn; byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy yw hwn.
Noder na fydd yr ymchwiliad yn dechrau nes eich bod chi, yr achwynydd a’r ymchwilydd/cyngor yn cytuno ar gwmpas y gŵyn.
Yna bydd y cyngor yn rhoi ymateb ysgrifenedig i’ch cwyn. Bydd yr ymateb hwn yn cynnwys y canlynol:
- Canlyniad yr ymchwiliad
- Unrhyw gamau pellach y bwriadwn eu cymryd i unioni pethau
- Unrhyw welliannau i’r gwasanaeth y byddwn yn eu rhoi ar waith
Nid wyf yn siŵr at bwy y mae angen i mi gyfeirio fy nghwyn gorfforaethol?
Efallai y bydd cwyn gennych am wasanaeth yr ydym wedi’i drefnu ar eich rhan gyda darparwr arall, megis contractiwr. Bydd gan bob sefydliad ei broses gwyno ei hun a byddwn yn hapus i’ch helpu i wneud cwyn am unrhyw un o’r gwasanaethau hyn.
Nid wyf yn siŵr at bwy y mae angen i mi gyfeirio fy nghwyn gofal cymdeithasol?
Efallai y bydd cwyn gennych am wasanaeth yr ydym wedi’i drefnu ar eich rhan gyda darparwr arall, megis cartref gofal preswyl, asiantaeth gofal cartref neu wasanaeth dydd. Bydd gan bob sefydliad ei broses gwyno ei hun a byddwn yn hapus i’ch helpu i wneud cwyn am unrhyw un o’r gwasanaethau hyn.
Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth yr ydym wedi’i ddarparu ar y cyd â sefydliad arall, e.e. pecyn gofal gan staff iechyd a gofal cymdeithasol, byddwn yn edrych ar eich cwyn gyda’n gilydd ac fel arfer yn anfon un ymateb atoch
Ble dwi'n mynd os nad ydw i'n fodlon gydag ymateb y cyngor i fy nghwyn?
Mae’r ombwdsmon fel arfer yn disgwyl i chi ddod â’ch pryderon i’n sylw yn gyntaf a rhoi’r cyfle i ni unioni pethau.
Os ydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor i’ch cwyn, gallwch ofyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio iddi.
Mae manylion Cyswllt i’w gweld isod:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
E-bost: holwch@ombwdsmon.cymru
Gwefan: Ombwdsmon Cymru
Beth os oes gennyf ganmoliaeth neu sylw?
Os ydych yn fodlon am rywbeth yr ydych yn teimlo ein bod wedi’i wneud yn dda neu os oes gwasanaeth yr ydych yn hapus ag ef, neu os oes gennych awgrym ar sut y gallai’r cyngor wella, rhowch wybod i ni drwy unrhyw un o’r dulliau canlynol:
Defnyddio’r ffurflen ar-lein: Ffurlen Canmoliaeth / Sylw
Anfon e-bost: compliments@pembrokeshire.gov.uk
Ysgrifennu at: Canmoliaethau a Sylwadau, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Cwynion Gofal Cymdeithasol: Alla i wneud cwyn at rywun arall?
Arolygiaeth Gofal Cymru
Sy’n rheoleiddio’r holl wasanaethau gofal yng Nghymru. Gallwch gwyno’n uniongyrchol ati am wasanaeth gofal a dderbynnir gan gartrefi gofal ac asiantaethau gofal cartref, yn ogystal â gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor.
Cyfeiriad: Arolygiaeth Gofal Cymru, Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, LL31 9RZ
Ffôn: 0300 7900 126 Ffacs: 0872 437 7301
E-bost: AGC@llyw.cymru Website: Arolygiaethgofal Cymru
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru
Yn rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ac mae ganddo’r pŵer i ymchwilio i honiadau o gamymddwyn.
Cyfeiriad: Gofal Cymdeithasol Cymru, Tŷ South Gate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW
E-bost: info@ccwales.org.uk
Gwefan: Gofal Cymdeithasol Cymru
Comisiynydd Plant Cymru
Gefnogi a chynghori plant a phobl ifanc ar eu hawliau.
Cyfeiriad: Comisiynydd Plant Cymru, Tŷ Llewellyn, Parc Busnes Glan Yr Harbwr, Heol Yr Harbwr, Port Talbot, SA13 1SB
Ffôn: 01792 765 600 Rhadffôn: 0808 801 1000
E-bost: post@complantcymru.org.uk
Gwefan: Com Plant Cymru
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Yn gwarchod a hyrwyddo hawliau pobl hŷn ledled Cymru. Mae’n rhoi cymorth a chefnogaeth yn uniongyrchol i bobl hŷn ac yn gweithio i rymuso pobl hŷn a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt.
Cyfeiriad: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Tre-biwt, Caerdydd, CF10 5FL
Ffôn: 03442 640670 neu 02920 445030
E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com
Gwefan: Comisiynyd DPH
Cyngor a chymorth arall sydd ar gael i achwynwyr
Gall y sefydliadau canlynol eich cynorthwyo wrth wneud cwyn.
Os ydych chi'n dal yn ansicr o ran yr hyn sydd ei angen arnoch, neu os nad yw'r un sydd ei angen arnoch wedi'i restru isod, rhowch wybod i ni a byddwn yn hapus i helpu i ddod o hyd i'r un cywir i chi.
Eiriolaeth i blant a phobl Ifanc
TGP Cymru
Cyfeiriad: Byngalo Min-y-Mor, Gerddi Wellington, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0BQ
Ffôn: 0808 168 2599 E-bost: midandwestwales@tgpcymru.org.uk
Gwefan: TGP Cymru
Oedolion ag anableddau dysgu
Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
Cyfeiriad: Portcullis House, Old Hakin Road, Hwlffordd, SA61 1XE
Ffôn: 01437 762524
E-bost: advocate@pembrokeshirepeople1st.org.uk
Gwefan: Pembrokeshire People 1st
Plant ag Anableddau Dysgu
Gweithredu dros Blant
Cyfeiriad: Penfynnon, Hawthorn Rise, Hwlffordd, SA61 2AX
Ffôn: 01437 761 330
Gwefan: AFC West Wales
Cyngor cyffredinol
Cyngor ar Bopeth Sir Benfro
Cyfeiriad: 36-38 High Street, Hwlffordd, SA61 2DA neu, 38 Meyrick Street, Doc Penfro, SA72 6UT
Ffôn: Hwlffordd 01437 767 936 / Doc Penfro 01646 623 104
Gwefan: Pembs CAB
Eiriolaeth broffesiynol annibynnol
3CIPA (Tair Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol Sirol)
Ffôn: 0800 206 1387 E-bost: info@cipawales.org.uk
Gwefan: CIPA Wales