Cydgyfeirio
Cyllid Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd
Rhwng 2014 a 2020, bydd Cymru yn elwa ar fuddsoddiad gwerth dros £2 biliwn gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd
Mae'r cyllid yn helpu i gefnogi pobl i gael gwaith a hyfforddiant, cyflogaeth ieuenctid, ymchwil ac arloesedd, natur gystadleuol busnesau (BBaChau), ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, a chysylltedd a datblygu trefol.
Ynghyd ag arian cyfatebol, bydd y Cyllid Strwythurol yn llywio buddsoddiad o bron £3 biliwn ledled Cymru.
Rhaglenni Cyllid Strwythurol Yn unol â'r Comisiwn Ewropeaidd, caiff buddsoddiadau eu blaenoriaethu yn ôl anghenion a chyfleoedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yn cynnwys:
- Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)
- Cronfa Gymdeithasol Ewrop
Gweinyddir Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Bydd cyllid WEFO yn helpu i symud ymlaen drawsnewidiad y rhanbarth yn economi cynaliadwy a chystadleuol, a hynny trwy fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd a helpu busnesau newydd a busnesau presennol i dyfu. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, ynghyd â seilwaith strategol. Bydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cael ei defnyddio i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, ac i gynyddu sgiliau a chyflogaeth.
Syniadau sydd ar y gweill a Gweithrediadau a gymeradwywyd
Rheolir y rhaglenni hyn gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Mae WEFO yn cyhoeddi rhestr o'r gweithrediadau a gymeradwywyd a'r rheiny sydd yn y cam cynllunio busnes neu wneud cais. Caiff y rhain eu diweddaru bob mis.
Gwneud Cais am Gyllid
Mae canllawiau ar gael ar wefan WEFO, ond os hoffech drafod unrhyw syniad am brosiect, gallwch gysylltu ag Uned Ewropeaidd Cyngor Sir Penfro trwy ffonio 01437 776175