Cydraddoldeb

Cydraddoldebau

O dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, mewn grym ers Ebrill 2011, mae'n ofynnol i gyrff y sector gyhoeddus roi sylw priodol i'r canlynol wrth ymarfer eu dyletswyddau:

  • Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, ac erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf  
  • Hyrwyddo cydraddoldeb cyfleoedd rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a rhai nad ydynt  
  • Meithrin  perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a rhai nad ydynt

Nodweddion gwarchodedig yw: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a cyfeiriadedd rhywiol.

Yng Nghymru ceir hefyd nifer o ddyletswyddau ychwanegol sy'n cynnwys cael Cynllun Cydraddoldeb Strategol; ymgysylltu â rhai mewn grwpiau nodweddion gwarchodedig; datblygu a chyhoeddi asesiadau effaith cydraddoldeb, a darparu ystadegau cyflogaeth.

Yn ogystal, o Ebrill 2021, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu rhan economaidd-gymdeithasol y dyletswyddau sy'n benodol i Gymru. Mae hyn yn golygu bod rhaid i'r cyngor ystyried sut y gallai ei benderfyniadau helpu i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:-

Dan Shaw
Rheolwr Cynllunio Corfforaethol
dan.shaw@pembrokeshire.gov.uk
01437 775857

 

ID: 585, adolygwyd 17/01/2023