Cydraddoldeb

Asesiad Effaith Integredig

Rydym wedi datblygu offeryn i asesu effaith y strategaethau a'r polisïau arfaethedig ynglŷn â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth, datblygu cynaliadwy, yr iaith Gymraeg ac iechyd a lles (yn cynnwys tlodi plant).   

Mae'r offeryn Asesiad Effaith Integredig (AEI) yn cael ei gymhwyso i bob penderfyniad a wnawn ynglŷn â pholisi ac arfer ac mae'n sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau ynghylch:  

  • cydraddoldeb ac amrywiaeth,
  • datblygu cynaliadwy,
  • yr iaith Gymraeg a
  • materion iechyd a lles

Dylid cwblhau'r AEI cyn gynted ag y bo modd yn y broses o ddatblygu polisi.  Mae'n gofyn cyfres o gwestiynau i'r swyddog arweiniol sy'n gyfrifol am y polisi neu'r arfer sy'n cael ei asesu ynglŷn â phob un o'r themâu sydd wedi ei rhestru uchod.  Gofynnir i'r swyddog ystyried a fydd y polisi neu'r arfer o dan sylw yn effeithio'n gadarnhaol, yn negyddol neu'n niwtral.   

Lle bynnag y rhagwelir effaith negyddol, mae'r AEI yn gofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r camau sydd wedi eu gweithredu i liniaru'r effeithiau.   

Beth ydym yn ceisio ei gyflawni a pham y mae'n bwysig?   

Mae'n bwysig bod y pethau rydym yn eu gwneud yn gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth, datblygu cynaliadwy, defnyddio'r iaith Gymraeg ac iechyd a lles.  Mae'n bwysig hefyd lleihau unrhyw effeithiau negyddol.  Mae modd cynnal asesiadau o effaith ar wahân ar gyfer datblygu cynaliadwy, defnyddio'r iaith Gymraeg ac iechyd a lles ond rydym yn cydnabod bod dull integredig o weithredu yn fwy effeithiol.  Nid yn unig y bydd cyfuno'r gwahanol asesiadau yn gofyn llai o amser, ond bydd hefyd yn sicrhau nad yw effeithiau negyddol a chadarnhaol yn cael eu gweld ar wahân oherwydd eu bod yn aml iawn yn cydberthyn.  Bydd defnyddio'r offeryn yn gyson yn gwella ansawdd bywyd yn Sir Benfro.  

Cyhoeddir yr Asesiadau Effaith Integredig fel rhan o'r papurau ar gyfer y pwyllgor gwneud penderfyniadau perthnasol (h.y. y Cabinet a'r Cyngor).

Dan Shaw

Rheolwr Cynllunio Corfforaethol
01437 775857

ID: 588, adolygwyd 17/01/2023