Cydraddoldeb

Lleisiau Sir Benfro Gydraddoldeb

Ydych chi'n rhan o grŵp sy'n cynnig ffocws i bobl gyda chysylltiad â chydraddoldeb?

Dyma'r cysylltiadau cydraddoldeb:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd a chred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Ydych chi eisiau gwneud yn siŵr fod lleisiau'r bobl a gefnogwch yn cael eu clywed gan sefydliadau'r sector cyhoeddus pan fyddant yn cynllunio ac yn cyflwyno gwasanaethau yn Sir Benfro?

Ymunwch â Lleisiau Sir Benfro dros Gydraddoldeb, a sefydlwyd yn 2014, i helpu gwneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.

Y sefydliadau sector cyhoeddus sy'n cymryd rhan yw:

  • Heddlu Dyfed Powys
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Coleg Sir Benfro
  • Cyngor Sir Penfro
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mae'r grŵp wedi cytuno i wneud y canlynol:

  • Cydweithio i godi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth 
  • Cydweithio i nodi a mynd i'r afael â rhwystrau i gynhwysiant 
  • Cynnig cyfleoedd i gynrychiolwyr grwpiau cydraddoldeb a chyrff sector cyhoeddus i rwydweithio mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
  • Cynnig buddiannau cydraddoldeb gyda'r cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad, gweithrediad a monitro polisïau, cynlluniau a gwasanaethau 
  • Datblygu Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol / Lles y sefydliadau perthnasol

Nod y grŵp yw cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn.

Mae ganddo Gadeirydd trydydd sector.

Mae'r aelodau hefyd yn cael newyddion yn gyson am faterion a digwyddiadau cydraddoldeb

Mae grwpiau tebyg yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Ymunwch â Ni!

Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy, cysylltwch â:

Karen Chandler (Cyd-gadeirydd)

Pembrokeshire People First

Karen@pembrokeshirepeople1st.org.uk

01437 762524

NEU

Sarah Worby (Cydlynu)

Cyngor Sir Penfro

Sarah.worby@pembrokeshire.gov.uk

01437 775263

ID: 589, adolygwyd 17/08/2017