Pan fyddwn yn cynnig newid neu'n datblygu polisi neu wasanaeth, mae angen i ni gwblhau Asesiad Effaith Integredig (AEI). Diben hyn yw dangos ein bod ni wedi ystyried yr effaith botensial ar y sawl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r Gymraeg. Mae'r Asesiad o Effaith Integredig yn gofyn i ni hefyd ddisgrifio pa gamau fyddwn ni'n eu cymryd i leihau unrhyw effeithiau negyddol disgwyliedig, lle bo'n berthnasol.
Gofynnwn gwestiynau am nodweddion gwarchodedig a'r Gymraeg er mwyn ein helpu ni i gasglu tystiolaeth i seilio'n Asesiad arnynt. Defnyddir y wybodaeth a gasglwn at ddibenion ystadegol yn unig.
Rydym wedi datblygu set safonol o gwestiynau, yr anogwn bob adran yn y Cyngor i'w defnyddio. Pwrpas hyn yw helpu sicrhau bod gennym ddull cyson o droi at hyn ar draws y sefydliad. Mae'r cwestiynau a ddefnyddiwn yn seiliedig ar gwestiynau a ddatblygwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Anhysbysedd a Chyfrinachedd
Lle bo'n bosibl, byddwn yn casglu gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig a'r Gymraeg yn ddienw (h.y. ni fyddwn yn gofyn i chi am eich enw, cod post, rhif yswiriant gwladol ac ati, a fyddai'n ein galluogi i'ch adnabod chi'n unigol). Mewn rhai achosion, gallai fod angen i ni ofyn am wybodaeth am nodweddion gwarchodedig a'r Gymraeg ar yr un pryd ag y gofynnwn am wybodaeth, sy'n golygu y gallai fod modd i ni eich adnabod chi'n unigol. Os byddwn yn gwneud hyn, byddwn yn trin y wybodaeth yn gyfrinachol ac yn ei thrin yn unol â Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2016 a Deddf Diogelu Data 2018.
Cydraddoldeb a Nodweddion Gwarchodedig - Cwestiynau Safonol
Dyma'r naw nodwedd, sy'n cael eu gwarchod dan Ddeddf Cydraddoldeb 2011:
Yn ogystal, rydym yn cynnwys cwestiwn safonol am gyfrifoldebau gofalgar yn aml, gan fod hyn yn ein helpu i gael dealltwriaeth ehangach mewn perthynas ag anabledd.
Oedran Ydych chi? (ticiwch un yn unig)
|
Beichiogrwydd a mamolaeth/tadolaeth Nodwch a oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi (ticiwch bob un sy'n berthnasol)
|
Rhyw Sut byddech chi'n disgrifio'ch hun? (ticiwch un yn unig)
|
Anabledd Ydy eich gweithgareddau o ddydd i ddydd yn cael eu cyfyngu arnynt oherwydd problem iechyd neu anabledd sydd wedi para neu y mae disgwyl iddynt bara 12 mis o leiaf? (ticiwch un yn unig)
|
Ailbennu rhywedd Ydy'ch rhywedd bresennol yr un fath ag yr un a bennwyd i chi pan gawsoch eich geni? (ticiwch un yn unig)
|
Cyfrifoldebau gofalgar Ydych chi'n darparu gofal cyson, di-dâl, sylweddol i berthynas, cyfaill neu gymydog sy'n methu ymdopi gartref heb help oherwydd salwch, oedran neu anabledd? (ticiwch un yn unig)
|
Cyfeiriadedd rhywiol Beth yw'ch cyfeiriadedd rhywiol (ticiwch un yn unig)
|
Grŵp ethnig Beth yw'ch grŵp ethnig? (ticiwch un yn unig)
|
Priodas a phartneriaeth sifil Ydych chi'n? (ticiwch un yn unig)
|
Crefydd Beth yw'ch crefydd? (ticiwch un yn unig)
|
Yn olaf byddwn yn gofyn:
Os ydych chi'n meddwl bod unrhyw rai o'r canlynol wedi dylanwadu (yn gadarnhaol neu'n negyddol) ar eich ymateb i'r holiadur hwn: eich tras ethnig, rhyw, oedran, statws priodasol, tuedd rywiol, anabledd, ailbennu rhywedd, daliadau crefyddol neu ddim cred, y defnydd o'r Gymraeg, BSL neu ieithoedd eraill, cenedl neu gyfrifoldeb am rai sy'n ddibynnol arnoch, rhowch fanylion isod, os gwelwch yn dda.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sarah Worby
Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
01437 775263
Sarah.worby@pembrokeshire.gov.uk
Neu
Dan Shaw
Rheolwr Cynllunio Corfforaethol
01437 775694
Dan.shaw@pembrokeshire.gov.uk