Cydraddoldeb
Pam Ydym ni'n Gofyn Cwestiynau Cydraddoldeb a'r Gymraeg?
Pan fyddwn yn cynnig newid neu'n datblygu polisi neu wasanaeth, mae angen i ni gwblhau Asesiad Effaith Integredig (AEI). Diben hyn yw dangos ein bod ni wedi ystyried yr effaith botensial ar y sawl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig, y rhai ar incwm isel ac a'r Gymraeg. Mae'r Asesiad o Effaith Integredig yn gofyn i ni hefyd ddisgrifio pa gamau fyddwn ni'n eu cymryd i leihau unrhyw effeithiau negyddol a ragwelir a nodi a gwelia unrhyw effeithiau cadarnhaol posibl.
Gofynnwn gwestiynau am nodweddion gwarchodedig a'r Gymraeg er mwyn ein helpu ni i gasglu tystiolaeth i seilio'n Asesiad arnynt. Lle byddwn yn casglu gwybodaeth drwy'r adran Dweud eich Dweud ar ein gwefan, byddwn yn gwneud hynny yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd
Rydym wedi datblygu set safonol o gwestiynau, yr anogwn bob adran yn y Cyngor i'w defnyddio. Pwrpas hyn yw helpu sicrhau bod gennym ddull cyson o droi at hyn ar draws y sefydliad.
Cydraddoldeb a Nodweddion Gwarchodedig - Cwestiynau Safonol
Dyma'r naw nodwedd, sy'n cael eu gwarchod dan Ddeddf Cydraddoldeb 2011:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Priodas a phartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil
- Credydd neu gred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd rhywiol
Yn ogystal, rydym yn cynnwys cwestiwn safonol am gyfrifoldebau gofalgar yn aml, gan fod hyn yn ein helpu i gael dealltwriaeth ehangach mewn perthynas ag anabledd.
Oedran Ydych chi? (ticiwch un yn unig)
|
Beichiogrwydd a mamolaeth/tadolaeth Nodwch a oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi (ticiwch bob un sy'n berthnasol)
|
Rhyw Sut byddech chi'n disgrifio'ch hun? (ticiwch un yn unig)
|
Anabledd Ydych chi'n ystyried eich hun yn anabl? (ticiwch un yn unig)
|
Ailbennu rhywedd Ydy'ch rhywedd bresennol yr un fath ag yr un a bennwyd i chi pan gawsoch eich geni? (ticiwch un yn unig)
|
Cyfrifoldebau gofalgar Ydych chi'n darparu gofal cyson, di-dâl, sylweddol i berthynas, cyfaill neu gymydog sy'n methu ymdopi gartref heb help oherwydd salwch, oedran neu anabledd? (ticiwch un yn unig)
|
Cyfeiriadedd rhywiol Beth yw'ch cyfeiriadedd rhywiol (ticiwch un yn unig)
|
Grŵp ethnig Beth yw'ch grŵp ethnig? (ticiwch un yn unig)
|
Priodas a phartneriaeth sifil Ydych chi'n? (ticiwch un yn unig)
|
Crefydd Beth yw'ch crefydd? (ticiwch un yn unig)
|
Incwm Aelwydydd Tua faint o incwm sy'n dod i mewn i'ch cartref bob blwyddyn? (ticiwch un yn unig)
|
Cymraeg Ydych chi'n gallu gofyn mwy nag ychydig eiriau yn Gymraeg (ticiwch un yn unig)
|
Effeithiau ar y Gymraeg - Ymgynghoriadau Ffurfiol
Er mwyn i ni asesu effeithiau tebygol ar y Gymraeg, pan fyddwn yn cynnal ymgynghoriadau ffurfiol, byddwn hefyd yn gofyn:
Pa effeithiau ydych chi'n teimlo y byddai'r cynnig(au) yn eu cael ar
- cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
- peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
Sut y gellid llunio neu ddiwygio'r cynnig(au) er mwyn cael effeithiau cadarnhaol (neu effeithiau cadarnhaol cynyddol) ar
- cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
- peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sarah Worby
Swyddog Ymchwil a Pholisi Corfforaethol
01437 775263
Sarah.worby@pembrokeshire.gov.uk