Cydraddoldeb

Ymgyrch Dim Goddefgarwch i Hiliaeth yng Nghymru Race Council Cymru

Datganiad o Fwriad Cyngor Sir Penfro

Mae Cyngor Sir Penfro yn croesawu lled a dyfnder traddodiad, cred a diwylliant y gymuned.

Mae'n ceisio creu, cynnal a hyrwyddo cymuned lle mae pob unigolyn yn cael ei drin yn deg ac yn gyfartal beth bynnag fo'i hil.

Mae Cyngor Sir Penfro yn cadarnhau ei ymrwymiad tuag at bolisi o gyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth ac wrth gyflenwi gwasanaethau.

Bydd unigolion yn cael eu dewis a'u trin ar sail eu rhinweddau a galluoedd perthnasol ac yn derbyn cyfleoedd cyfartal a theg o fewn Cyngor Sir Penfro.

I'r un graddau, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddelio â staff, cleientiaid, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth yn unol â'r polisi hwn.

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymrwymo i gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a darparu gwasanaethau teg a chyfartal i bobl o bob cefndir hil a chefndiroedd eraill â nodweddion gwarchodedig.

Nod y polisi hwn yw sicrhau nad oes unrhyw ymgeisydd am swydd neu ddefnyddiwr/ymwelydd/gwestai yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar unrhyw sail nad yw'n berthnasol i arferion cyflogaeth da. Rydym wedi ymrwymo i raglen weithredu i sicrhau bod y polisi hwn yn llwyr effeithiol.

Datganiad Polisi Cyngor Sir Penfro

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymrwymo i hyrwyddo polisi dim goddefgarwch i hiliaeth ledled Cyngor Sir Penfro, sy'n golygu fel a ganlyn:

  • Byddwn yn gwrthsefyll hiliaeth ac yn hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal i bawb
  • Ni fyddwn yn goddef unrhyw ragfarn hiliol, camwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth, cam-drin na thrais yn erbyn unrhyw unigolyn
  • Byddwn yn cydsefyll, yn dod at ein gilydd, ac yn gwrthwynebu hiliaeth yn ei holl ffurfiau
  • Byddwn yn hyrwyddo cysylltiadau hiliol da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yng Nghyngor Sir Penfro
  • Byddwn yn hybu cyfleoedd cyfartal a theg i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol ennill dyrchafiad
  • Byddwn yn diddymu unrhyw arferion anghyfreithlon mewn perthynas ag aflonyddwch, cam-drin, erledigaeth a gwahaniaethu ar sail hil

Cyfrifoldeb Cyngor Sir Penfro

Mae gan bob unigolyn ar bob lefel gyfrifoldebau penodol. Dibynnir cysylltiadau ac arferion da a'r gamp o gyflawni cymuned gynhwysol ar bob aelod o Gyngor Sir Penfro yn trin ei gyd-aelodau/defnyddwyr/ymwelwyr gyda pharch ac urddas. Felly, disgwylir i bob unigolyn wneud y canlynol:

  1. Cydweithredu â mesurau er mwyn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i ddiddymu camwahaniaethu anghyfreithlon.
  2. Trin pob un aelod o staff mewn ffordd deg ac anwahaniaethol, gan barchu unrhyw wahaniaethau.
  3. Peidio â gwahaniaethu pan all aelodau o’r fath fod mewn sefyllfa o rym dros eraill.
  4. Peidio â cheisio ysgogi neu annog pobl eraill i ymddwyn mewn ffyrdd gwahaniaethol.
  5. Peidio ag erlid neu geisio erlid unrhyw un sydd wedi lleisio cwynion am gamwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth neu gam-drin, neu sydd wedi darparu gwybodaeth ynglŷn â chamwahaniaethu.
  6. Diddymu achosion o aflonyddu, cam-drin neu fygwth eraill ar sail eu hil neu ethnigrwydd – er enghraifft, trwy geisio eu hannog i beidio â gwneud cais am swyddi gwag neu gyfleoedd gwirfoddoli o fewn Cyngor Sir Penfro.
  7. Hysbysu unigolyn priodol os oes unrhyw fath o gamwahaniaethu, aflonyddwch  neu erledigaeth yn digwydd.
  8. Cymryd camau gweithredu priodol pan fo’n cael ei hysbysu fod gweithred neu weithredoedd o gamwahaniaethu, aflonyddwch neu erledigaeth wedi digwydd

Monitro

Polisi Cyngor Sir Penfro yw monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws pob agwedd o'i weithgarwch. Mae hyn yn cynnwys:

  • Derbyn a recriwtio staff, gwirfoddolwyr, aelodau, defnyddwyr ac ymwelwyr
  • Nifer a natur y cwynion, cwynion cyflogaeth a chamau disgyblu
  • Cyfraddau ymddiswyddo a thynnu yn ôl staff, cleientiaid, cwsmeriaid a/neu ddefnyddwyr gwasanaeth

Bydd gwaith monitro o'r math hwn yn datgelu a oes unrhyw grwpiau penodol dan anfantais ac a ydynt yn derbyn triniaeth deg a chyfiawn mewn perthynas â naill ai eu cyflogaeth neu eu defnydd o Gyngor Sir Penfro. Pan ddarganfyddir arferion annheg trwy’r broses fonitro, bydd angen cymryd camau gweithredu angenrheidiol i unioni'r anfantais.

ID: 589, adolygwyd 17/01/2023