Cyfamod Lluoedd Arfog
Cyfamod Lluoedd Arfog
Os ydych yn aelod o'r Lluoedd Arfog (Rheolaidd neu Wrth Gefn), yn gyn-filwr, yn aelod o'r teulu neu'n weddw, yna mae Cyngor Sir Penfro a phartneriaid wedi ymrwymo i ddarparu mynediad hawdd i'r wybodaeth a'r cymorth y gallai fod eu hangen arnoch.
Mewn partneriaeth â chyd-weithwyr rhanbarthol rydym wedi denu cyllid o Gronfa Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan gyflogi Swyddog Cyswllt rhanbarthol ar gyfer y Lluoedd Arfog, a'i rôl yw gweithio ar y cyd â chyrff statudol ac anstatudol er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael eu trin yn deg ac nad ydynt dan anfantais trwy eu gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog. Mae'r un ffynhonnell ariannu hon bellach yn darparu ar gyfer cynyddu'r wybodaeth a'r cymorth sydd ar gael i Gyn-filwyr a'u teuluoedd ledled y Sir trwy Hwb a sefydlwyd yn y VC Gallery yn Hwlffordd a Doc Penfro.
Pencampwr presennol y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Penfro yw'r Cynghorydd Simon Hancock.