Cyfamod Lluoedd Arfog

Cynorthwyo Plant Milwyr Mewn Addysg yng Nghymru (SSCE) Cymru

Ariannwyd y prosiect ‘Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru’ yn wreiddiol gan Gronfa Addysg yr MOD ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2019.

Ers i’r prosiect ddechrau yn 2014, mae wedi gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, gweithwyr addysg proffesiynol, teuluoedd y Lluoedd Arfog a sefydliadau cymorth i gasglu eu safbwyntiau a’u profiadau, datblygu ein rhwydweithiau ar hyd a lled Cymru a pharhau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Mae wedi datblygu canllawiau ac adnoddau digidol ar gyfer ysgolion a theuluoedd, wedi cynnal cynadleddau ac wedi comisiynu ymchwil i ddeall anghenion plant Milwyr mewn addysg yn well.

Diffiniad Plentyn Milwyr yw un sydd ag un neu ddau riant sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd; plentyn y mae ei riant / rieni wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog o fewn y chwe blynedd diwethaf (Cyn-filwr); neu blentyn y mae ei riant / rhieni yn gwasanaethu fel Swyddogion wrth gefn ar hyn o bryd.

Mae gwybodaeth a phecynnau cymorth wedi'u teilwra ar gael i helpu Plant Milwyr wrth iddynt symud i'r rhanbarth gyda'u rhieni. Mae manylion ar gael ar wefan SSCE.

ID: 5615, adolygwyd 20/04/2023