Cysylltwyr Cymunedol

Tîm o 6 o bobl sy'n cwmpasu'r 6 ardal integredig ledled Sir Benfro yw Cysylltwyr Cymunedol Sir Benfro. Mae'r Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig hefyd yn cynnwys Cysylltydd sy'n arbenigo mewn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd a Swyddog Datblygu Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia sy'n canolbwyntio ar gefnogi gweithgareddau i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.

Gweithio o bell mewn ardaloedd yn y gogledd, de, dwyrain a’r gorllewin, ond wedi'i gyflogi gan PAVS. Mae hyn wedi darparu cyfleoedd gwych i gael mynediad at gyd-weithwyr ag arbenigedd mewn meysydd fel Gwirfoddoli, datblygu’r trydydd sector.

Gall Cysylltwyr Cymunedol Sir Benfo gefnogi pobl i gael mynediad at wasanaethau ar lefel gymunedol a gweithgareddau a fydd yn eu helpu i gynnal bywydau annibynnol.

Nod: Atal amgylchiadau rhag dirywio i bwynt lle gallai fod angen gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol lefel uwch ar unigolion.

Gallwch gysylltu trwy Hyb Cymunedol Sir Benfro ar 01437 723660 neu e-bostiwch enquiries@pembrokeshirecommunityhub.org

Cysylltwyr Cymunedol Cysylltu Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

Mae ein padled yn fwrdd bwletin rhithwir sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn Sir Benfro sy'n cael ei ddiweddaru'n ddyddiol gyda gwybodaeth gan ein partneriaid lleol. 

Community Connectors Pembrokeshire padlet (yn agor mewn tab newydd)

ID: 9483, revised 05/11/2024