Darparwyr Mewnol

Cyfleoedd Dydd a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro

Mae cyfleoedd dydd yn helpu ac yn galluogi pobl i gwrdd â ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwaraeon a hamdden, TG a Digidol, coginio a phobi, celf a chrefft, synhwyraidd a hel atgofion i'w cynnal, dysgu ac archwilio sgiliau, hobïau a diddordebau newydd. 

Maen nhw'n helpu pobl i gysylltu â'u cymuned ac i ddefnyddio gwasanaethau lleol fel canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a chyfleusterau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae gennym hefyd ein hadeiladau ein hunain sydd â lle, offer ac adnoddau arbenigol ledled y sir.

Yn Sir Benfro mae amrywiaeth eang o fentrau cymdeithasol sy’n gallu rhoi cyfleoedd dydd i bobl sydd eisiau aros yn egnïol a bod yn rhan o’u cymuned.

Mae modd cael y gwasanaethau hyn yn dilyn asesiad o angen. Bydd darparwyr y gwasanaethau hyn yn mynychu’r Fforwm Cyfleoedd Dydd, sy’n gallu rhoi manylion cyfleoedd yn eich ardal.

Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth - Busnes Cyflogaeth (Diwydiannau Norman) wedi’i sy’n rhoi cyfleoedd i gynnal sgiliau gwaith coed neu baentio.

Mae Diwydiannau Norman ar gael yn dilyn asesiad o angen ond mae hefyd yn croesawu gwirfoddolwyr heb asesu anghenion sydd eisiau profiad ymarferol ac sy’n barod i gynorthwyo pobl ifanc anabl wrth iddynt ddysgu.

Ffôn: 01437 763650

E-bost: karen.davies@pembrokeshire.gov.uk


Gweithgareddau ar gael

Gallai gweithgareddau mewn gwasanaethau dydd fod yn rhai cymunedol, fel mynd i ganolfan hamdden neu byddai modd eu darparu trwy grwpiau sydd â nod penodol, er enghraifft clybiau cinio i ddarparu cyswllt cymdeithasol, neu grwpiau a sefydlwyd i gefnogi unigolion sydd â dementia.

Nod y gweithgareddau a gynigir i chi yw cyflawni eich amcanion personol, er enghraifft, helpu gyda dysgu sut i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hyderus ac yn ddiogel. Mae'n bosib y bydd rhai gwasanaethau yn cael eu darparu mewn adeiladau sy'n cael eu sefydlu ar gyfer pobl sydd angen cymorth gyda'u gofal personol ac sydd angen cael mynediad i gyfleusterau sy'n eu cadw'n ddiogel.

Bydd gwasanaethau dydd arall yn eich cefnogi i gael mynediad at weithgareddau yn y gymuned neu mewn grwpiau allgymorth. Bydd staff y gwasanaeth dydd yn monitro ac yn adolygu eich cynnydd yn erbyn eich amcanion er mwyn sicrhau bod gweithgareddau'n parhau i ddiwallu eich anghenion.

 

Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth

Cefnogi Cyflogadwyedd

Cefnogi Ffurflen Atgyfeirio Hyfforddiant a Chyflogadwyedd

Facebook: Rhaglen Gyflogaeth gyda Chymorth (yn agor mewn tab newydd)

Gallwch gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Cyfleoedd Dydd drwy:

E-bost: dayopportunitiesenquiries@pembrokeshire.gov.uk

Rhif Ffôn: 01437 775700

ID: 9478, revised 25/11/2024