Polisi Diogelu Data

Atodiad A; Arweiniad Ychwanegol ar Amodau ar gyfer Prosesu

Cyflogaeth,  Nawdd Cymdeithasol a Diogelu Cymdeithasol

Bodlonir yr amod hwn:

  • Os yw’r prosesu’n angenrheidiol at ddibenion cyflawni neu arfer rhwymedigaethau neu hawliau a osodir ar y rheolwr neu wrthrych y data, neu a roddir iddo, gan y gyfraith mewn cysylltiad â chyflogaeth, nawdd cymdeithasol neu ddiogelu cymdeithasol, ac
  • Os oes gan y rheolwr ddogfen bolisi briodol ar waith pan gyflawnir y prosesu.

Dibenion Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu’n angenrheidiol at un o’r dibenion canlynol:

  • Meddygaeth ataliol neu alwedigaethol
  • Asesu gallu cyflogai i weithio
  • Diagnosis meddygol
  • Darparu gofal iechyd neu driniaeth
  • Darparu gofal cymdeithasol, neu
  • Reoli systemau neu wasanaethau gofal iechyd neu systemau neu wasanaethau gofal cymdeithasol.

Ceir prosesu data personol at y dibenion hyn pan gaiff ei brosesu gan neu o dan gyfrifoldeb gweithiwr proffesiynol sy’n ddarostyngedig i rwymedigaeth cyfrinachedd proffesiynol a sefydlwyd gan gyrff cymwys cenedlaethol.

Iechyd Cyhoeddus

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn angenrheidiol er budd y cyhoedd ym maes iechyd cyhoeddus, a’i fod
  • Yn cael ei gynnal –
    • Gan neu o dan gyfrifoldeb gweithiwr iechyd proffesiynol, neu
    • Gan unigolyn arall y mae ganddo, yn yr amgylchiadau, ddyletswydd cyfrinachedd o dan ddeddfiad neu reolaeth cyfraith.

Ymchwil, ac ati.

Bodlonir yr amod hwn:

Os yw’r prosesu’n angenrheidiol at ddibenion archifo, dibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol.

  • Os yw’r prosesu’n destun mesurau diogelu technegol a sefydliadol priodol, gan gynnwys, e.e. lleihau data, rhoi dan ffugenw.  Lle y gellir cyflawni’r diben heb adnabod gwrthrych y data, dylai’r dibenion hynny gael eu cyflawni yn y modd hwnnw.
  • Ni fydd prosesu o’r fath yn bodloni’r gofynion os yw’n debygol o achosi niwed neu ofid sylweddol i wrthrych data neu os yw’r prosesu’n cael ei gynnal at ddibenion mesurau neu benderfyniadau mewn perthynas ag unigolyn penodol.
ID: 9853, adolygwyd 06/04/2023