Polisi Diogelu Data

Atodiad B; Amodau Budd Sylweddol ir Cyhoedd

Dibenion Statudol a Dibenion y Llywodraeth

Bodlonir yr amod  hwn os yw’r prosesu’n angenrheidiol i:

  • Arfer swyddogaeth a roddwyd i unigolyn gan ddeddfiad neu reolaeth cyfraith;
  • Arfer un o swyddogaethau’r Goron, Gweinidog y Goron neu adran y llywodraeth.

A’i fod am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd.

Dibenion Gweinyddu Cyfiawnder a Dibenion Seneddol

Bodlonir yr amod  hwn os yw’r prosesu’n angenrheidiol i:

  • Weinyddu cyfiawnder, neu
  • Arfer un o swyddogaethau’r naill dŷ Seneddol neu’r llall.

Cyfle Cyfartal neu Driniaeth Gyfartal

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn ymwneud â chategori penodol o ddata personol, a’i fod
  • Yn angenrheidiol i amlygu neu adolygu’n barhaus fodolaeth neu absenoldeb cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal rhwng grwpiau o bobl a nodwyd mewn perthynas â’r categori hwnnw er mwyn gallu hybu neu gynnal y cyfryw gydraddoldeb;

Mae penodol yn golygu:

  • Categori Data Personol: Data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig         
    • Grwpiau o bobl (mewn perthynas â chategori data personol): Pobl o wahanol darddiad hiliol neu ethnig
  • Categori Data Personol: Personal data revealing religious or philosophical beliefs          
    • Grwpiau o bobl (mewn perthynas â chategori data personol): Pobl sy’n glynu wrth wahanol gredoau crefyddol neu athronyddol 
  • Categori Data PersonolData concerning health           
    • Grwpiau o bobl (mewn perthynas â chategori data personol): Pobl â gwahanol gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol
  • Categori Data Personol: Personal data concerning an individual’s sexual orientation           
    • Grwpiau o bobl (mewn perthynas â chategori data personol): Pobl o wahanol gyfeiriadedd rhywiol

Ni fydd prosesu’n bodloni’r amod os yw’n cael ei gynnal at ddibenion mesurau neu benderfyniadau mewn perthynas â gwrthrych data penodol.

Ni fydd prosesu’n bodloni’r amod os yw’n debygol o achosi niwed neu ofid sylweddol i unigolyn.

Ni fydd prosesu’n bodloni’r amod:

  • Os yw gwrthrych y data (neu un o wrthrychau’r data) wedi hysbysu’r yr ysgol  yn ysgrifenedig i beidio â phrosesu ei ddata personol ac nid yw’r gofyniad wedi cael ei dynnu’n ôl;
  • Os oedd yr hysbysiad wedi rhoi cyfnod rhesymol i’r yr ysgol roi’r gorau i brosesu’r cyfryw ddata; ac
  • Os yw’r cyfnod wedi dod i ben.

Amrywiaeth Hiliol ac Ethnig ar Lefel Uwch Sefydliadau

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn ymwneud â data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig;
  • Yn cael ei gynnal yn rhan o broses o amlygu unigolion addas i ddal swyddi uwch mewn sefydliad penodol, math o sefydliad neu sefydliadau yn gyffredinol;
  • Yn angenrheidiol i hybu neu gynnal amrywiaeth o ran tarddiad hiliol ac ethnig unigolion sy’n dal swyddi uwch yn y sefydliad neu’r sefydliadau, ac
  • Yn gallu cael ei gynnal yn rhesymol heb ganiatâd gwrthrych y data (oni bai ei fod yn debygol o achosi niwed sylweddol neu ofid sylweddol i wrthrych y data).  Gellir cynnal y prosesu’n rhesymol os na ellir disgwyl yn rhesymol i’r yr ysgol gael caniatâd ac nid yw’r ysgol yn ymwybodol bod gwrthrych y data’n gwrthod rhoi caniatâd.

Atal neu Ganfod Gweithredoedd Anghyfreithlon

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn angenrheidiol at ddibenion atal neu ganfod gweithred anghyfreithlon;
  • Yn gorfod cael ei gynnal heb ganiatâd gwrthrych y data er mwyn peidio â pheryglu’r dibenion hynny; ac
  • Yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd.

Diogelu’r Cyhoedd rhag Anonestrwydd

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn angenrheidiol i arfer swyddogaeth amddiffynnol,
  • Yn gorfod cael ei gynnal heb ganiatâd gwrthrych y data er mwyn peidio â pheryglu arfer y swyddogaeth honno, ac
  • Yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd.

Mae “Swyddogaeth Amddiffynnol” yn golygu swyddogaeth y bwriedir iddi ddiogelu aelodau’r cyhoedd yn erbyn:

  • Anonestrwydd, camymddygiad neu fath arall o ymddygiad sy’n ddifrifol amhriodol,
  • Anaddasrwydd neu anallu,
  • Camreolaeth wrth weinyddu corff neu gymdeithas, neu
  • Fethiannau mewn gwasanaethau a ddarperir gan gorff neu gymdeithas.

Gofynion Rheoleiddiol sy’n ymwneud â Gweithredoedd Anghyfreithlon ac Anonestrwydd

Bodlonir yr amod hwn:

  • Os yw’r prosesu’n angenrheidiol i gydymffurfio â gofyniad rheoleiddiol, neu gynorthwyo pobl eraill i gydymffurfio â gofyniad rheoleiddiol, sy’n golygu bod rhywun yn cymryd camau i sefydlu p’un a yw rhywun arall wedi:
    • Cyflawni gweithred anghyfreithlon, neu
    • Wedi bod yn ymwneud ag anonestrwydd, camymddygiad neu fath arall o ymddygiad sy’n ddifrifol amhriodol.
  • Yn yr amgylchiadau, os na ellir disgwyl yn rhesymol i’r ysgol gael caniatâd gwrthrych y data i’r prosesu, ac
  • Os yw’r prosesu’n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd.

Newyddiaduraeth ac ati mewn Cysylltiad â Gweithredoedd Anghyfreithlon ac Anonestrwydd

Bodlonir yr amod hwn:

  • Os yw’r prosesu’n cynnwys datgelu data personol at y dibenion arbennig,
  • Os yw’n cael ei gynnal mewn cysylltiad â mater a ddisgrifir isod,
  • Os yw’n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd,
  • Os yw’n cael ei gynnal gyda’r bwriad o gyhoeddi’r data personol gan unrhyw unigolyn, ac
  • Os yw’r ysgol yn credu’n rhesymol y byddai cyhoeddi’r data personol er budd i’r cyhoedd.

Y materion y cyfeirir atynt yn yr ail bwynt uchod yw unrhyw un o’r canlynol (p’un a ydynt yn honedig neu wedi’u cadarnhau):

  • Cyflawni gweithred anghyfreithlon gan unigolyn;
  • Anonestrwydd, camymddygiad neu fath arall o ymddygiad difrifol amhriodol gan unigolyn;
  • Anaddasrwydd neu anallu unigolyn;
  • Camreolaeth wrth weinyddu corff neu sefydliad;
  • Methiant mewn gwasanaethau a ddarperir gan gorff neu gymdeithas.

Atal Twyll

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn angenrheidiol i atal twyll neu fath penodol o dwyll, a’i fod
  • Yn cynnwys:
    • Datgelu data personol gan unigolyn fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll,
    • Datgelu data personol yn unol â threfniadau a wnaed gan sefydliad gwrth-dwyll.

Amheuaeth o Gyllido Terfysgaeth neu Wyngalchu Arian

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu’n angenrheidiol at ddibenion gwneud datgeliad didwyll o dan y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • Adran 21CA Deddf Terfysgaeth 2000;
  • Adran 339ZB Deddf Enillion Troseddau 2002 (datgeliadau o fewn y sector rheoleiddiedig mewn perthynas ag amheuaeth o wyngalchu arian).

Cymorth i unigolion ag anabledd neu gyflwr meddygol penodol

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn cael ei gynnal gan gorff dielw sy’n cynorthwyo unigolion ag anabledd neu gyflwr meddygol penodol,
  • Yn ymwneud â data personol sy’n dod o fewn yr is-baragraffau hyn:
    • Data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig;
    • Data genetig neu ddata biometrig;
    • Data sy’n ymwneud ag iechyd
    • Data personol sy’n ymwneud â bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn.

A’i fod yn ymwneud ag unigolyn sy’n aelod o’r corff dielw ac:

    • Sydd â’r anabledd neu’r cyflwr hwnnw, y bu ganddo’r anabledd neu’r cyflwr hwnnw neu sydd mewn perygl sylweddol o ddatblygu’r anabledd neu’r cyflwr hwnnw, neu
    • Sy’n berthynas neu’n ofalydd unigolyn sy’n dod o fewn y categori uchod.
  • Yn angenrheidiol at ddibenion:
    • Cynyddu ymwybyddiaeth o’r anabledd neu’r cyflwr meddygol, neu
    • Gynorthwyo unigolion neu alluogi unigolion i’w cynorthwyo ei gilydd,
  • Yn gallu cael ei gynnal yn rhesymol heb ganiatâd gwrthrych y data, ac
    • Yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd.

Cwnsela ac ati

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn angenrheidiol i ddarparu cwnsela, cyngor neu gymorth cyfrinachol neu wasanaeth arall tebyg a ddarperir yn gyfrinachol,
  • Yn cael ei gynnal heb ganiatâd gwrthrych y data (ni all gwrthrych y data roi caniatâd, ni ellir cael caniatâd yn rhesymol, byddai cael caniatâd yn peryglu darparu’r gwasanaeth).

Diogelu Plant ac Unigolion sydd mewn Perygl

Bodlonir yr amod hwn:

  • Os yw’r prosesu’n angenrheidiol at ddibenion:
    • Amddiffyn unigolyn rhag esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol, neu
    • Amddiffyn llesiant corfforol, meddyliol neu emosiynol unigolyn,
  • Os yw’r unigolyn:
    • Yn iau na 18 oed, neu
    • Yn 18 oed neu’n hŷn ac mewn perygl,
  • Os yw’r prosesu’n cael ei gynnal heb ganiatâd gwrthrych y data am un o’r rhesymau canlynol:
    • Yn yr amgylchiadau, ni all gwrthrych y data roi caniatâd i’r prosesu;
    • Yn yr amgylchiadau, ni ellir disgwyl yn rhesymol i’r rheolwr gael caniatâd gwrthrych y data i’r prosesu;
    • Byddai cael caniatâd yn peryglu darparu’r amddiffyniad.
  • Os yw’r prosesu’n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd.

Mae unigolyn 18 oed neu’n hŷn “mewn perygl” os oes gan y rheolwr achos rhesymol i amau bod yr unigolyn:

  • Angen gofal a chymorth,
  • Yn profi esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol, neu mewn perygl o’u profi, ac
  • O ganlyniad i’r anghenion hynny, nid yw’n gallu ei amddiffyn ei hun rhag yr esgeulustod neu’r niwed neu’r perygl ohonynt.

Diogelu Llesiant Economaidd Unigolion Penodol

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn angenrheidiol at ddibenion amddiffyn llesiant economaidd unigolyn 18 oed neu hŷn sydd mewn perygl economaidd,
  • Yn cynnwys data sy’n ymwneud ag iechyd,
  • Yn cael ei gynnal heb ganiatâd gwrthrych y data, ac
  • Yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd.

Mae “unigolyn sydd mewn perygl” yn golygu unigolyn sy’n llai abl i amddiffyn ei lesiant economaidd o ganlyniad i anaf, salwch neu anabledd corfforol neu feddyliol.

Yswiriant

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn angenrheidiol at ddiben yswiriant,
  • Yn ymwneud â data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth ag undeb llafur, data genetig neu ddata sy’n ymwneud ag iechyd, ac
  • Yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd:
    • Lle nad yw’r prosesu’n cael ei gynnal at ddibenion mesurau neu benderfyniadau sy’n ymwneud â gwrthrych y data, a
    • Lle nad oes gan wrthrych y data neu lle na ddisgwylir iddo gaffael: hawliau neu rwymedigaethau i unigolyn sy’n unigolyn yswiriedig o dan gontract yswiriant neu hawliau neu rwymedigaethau eraill mewn cysylltiad â chontract o’r fath.

Pensiynau Galwedigaethol

Bodlonir yr amod hwn:

  • Os yw’r prosesu’n angenrheidiol i wneud penderfyniad mewn cysylltiad â chymhwysedd am gynllun pensiwn galwedigaethol neu fuddiannau sy’n daladwy o dan gynllun pensiwn galwedigaethol,
  • Os yw’r prosesu’n cynnwys data sy’n ymwneud ag iechyd gwrthrych data sy’n rhiant, nain neu daid, hen nain neu daid neu frawd neu chwaer aelod o’r cynllun,
  • Os nad yw’r prosesu’n cael ei gynnal at ddibenion mesurau neu benderfyniadau sy’n ymwneud â gwrthrych y data, ac
  • Os gellir cynnal y prosesu’n rhesymol heb ganiatâd gwrthrych y data.

Pleidiau Gwleidyddol

Bodlonir yr amod hwn os yw’r prosesu:

  • Yn ymwneud â data personol sy’n datgelu safbwyntiau gwleidyddol,
  • Yn cael ei gynnal gan unigolyn neu sefydliad sydd wedi’i gynnwys yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 23 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, ac
  • Yn angenrheidiol at ddibenion gweithgareddau gwleidyddol yr unigolyn neu’r sefydliad

Ni fodlonir yr amod os yw’n debygol o achosi niwed sylweddol neu ofid sylweddol i unigolyn.

Ni fodlonir yr amod:

  • Os yw unigolyn sy’n wrthrych y data (neu’n un o wrthrychau’r data) wedi hysbysu’r ysgol yn ysgrifenedig i beidio â phrosesu data personol y mae’r unigolyn yn wrthrych data ar ei gyfer (ac nid yw wedi rhoi gwybod yn ysgrifenedig ei fod yn tynnu’r gofyniad hwnnw yn ôl),
  • Os oedd yr hysbysiad wedi rhoi cyfnod rhesymol i’r rheolwr roi’r gorau i brosesu’r cyfryw ddata, ac
  • Mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben.
  • Yn y paragraff hwn, mae gweithgareddau gwleidyddol yn cynnwys ymgyrchu, codi arian, arolygon gwleidyddol a gwaith achos.

Cynrychiolwyr Etholedig sy’n Ymateb i Geisiadau

Bodlonir yr amod hwn:

  • Os yw’r prosesu’n cael ei gynnal:
    • Gan gynrychiolydd etholedig neu rywun sy’n gweithredu gydag awdurdod cynrychiolydd o’r fath,
    • Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r cynrychiolydd etholedig, ac
    • Mewn ymateb i gais gan unigolyn y mae’r cynrychiolydd etholedig wedi cymryd camau ar ei ran, ac
  • Os yw’r prosesu’n angenrheidiol at ddibenion y camau a gymerwyd yn rhesymol gan y cynrychiolydd etholedig mewn ymateb i’r cais hwnnw, neu mewn cysylltiad â’r camau hynny.

Lle y gwneir y cais i’r Cynrychiolydd Etholedig gan unigolyn heblaw am wrthrych y data, bodlonir yr amod dim ond os oes rhaid cynnal y prosesu heb ganiatâd gwrthrych y data am un o’r rhesymau canlynol:

  • Yn yr amgylchiadau, ni all gwrthrych y data roi caniatâd i’r prosesu yn rhesymol;
  • Yn yr amgylchiadau, ni ellir disgwyl yn rhesymol i’r cynrychiolydd etholedig gael caniatâd gwrthrych y data i’r prosesu;
  • Byddai cael caniatâd gwrthrych y data yn peryglu’r camau a gymerir gan y cynrychiolydd etholedig;
  • Mae’r prosesu’n angenrheidiol er budd unigolyn arall ac mae gwrthrych y data wedi gwrthod rhoi caniatâd yn afresymol.

Datgelu i Gynrychiolwyr Etholedig

Bodlonir yr amod hwn:

  • Os yw’r prosesu’n golygu datgelu data personol:
    • I gynrychiolydd etholedig neu unigolyn sy’n gweithredu gydag awdurdod cynrychiolydd o’r fath, ac
    • Mewn ymateb i gyfathrebiad i’r ysgol gan y cynrychiolydd neu’r unigolyn hwnnw a wnaed mewn ymateb i gais gan unigolyn,
  • Os yw’r data personol yn berthnasol i destun y cyfathrebiad, ac
  • Os yw’r datgeliad yn angenrheidiol i ymateb i’r cyfathrebiad hwnnw.

Lle y gwneir y cais i’r cynrychiolydd etholedig gan unigolyn heblaw am wrthrych y data, bodlonir yr amod dim ond os oes rhaid i’r datgeliad gael ei wneud heb ganiatâd gwrthrych y data am un o’r rhesymau canlynol:

  • Yn yr amgylchiadau, ni all gwrthrych y data roi caniatâd i’r prosesu;
  • Yn yr amgylchiadau, ni ellir disgwyl yn rhesymol i’r cynrychiolydd etholedig gael caniatâd gwrthrych y data i’r prosesu;
  • Byddai cael caniatâd gwrthrych y data yn peryglu’r camau a gymerir gan y cynrychiolydd etholedig;
  • Mae’r prosesu’n angenrheidiol er budd unigolyn arall ac mae gwrthrych y data wedi gwrthod rhoi caniatâd yn afresymol.
ID: 9854, adolygwyd 18/07/2024