Polisi Diogelu Data

Ceisiadau a Datgeliadau Gorfodi’r Gyfraith

Mewn rhai amgylchiadau, caniateir rhannu data personol heb wybodaeth na chaniatâd gwrthrych y data.  Mae hyn yn wir pan fydd angen datgelu’r data personol at unrhyw un o’r dibenion canlynol:

  • Atal neu ganfod trosedd;
  • Restio neu erlyn troseddwyr;
  • Asesu neu gasglu treth neu doll;
  • Trwy orchymyn llys neu unrhyw reolaeth cyfraith.

Os bydd ein hysgol yn prosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion hyn, caiff gymhwyso esemptiad i’r rheolau prosesu a amlinellir yn y polisi hwn (Atodiad C), ond dim ond i’r graddau y byddai peidio â gwneud hynny’n debygol o beryglu’r achos dan sylw.

Os bydd unrhyw un o gyflogeion ein hysgol yn derbyn cais gan lys neu unrhyw awdurdod rheoleiddiol neu orfodi’r gyfraith am wybodaeth yn ymwneud ag un o gysylltiadau Cyngor Sir Penfro, mae’n rhaid rhoi gwybod i’r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth a fydd yn gallu rhoi arweiniad a chymorth.

ID: 9851, adolygwyd 06/04/2023