Cyflwyniad Cyfranogiad Tenantiaid

Beth yw cyfranogiad tenantiaid?

 Yn syml, mae’n ymwneud â thenantiaid yn cymryd rhan mewn ffordd sy’n addas er eu cyfer.

Sut allaf gymryd rhan?

Gallwch gymryd rhan mewn llawer o ffyrdd ac nid yw hyn wedi’i gyfyngu i fynd i gyfarfodydd gyda’r nos! Gweler rhai syniadau isod ynghylch yr hyn y gallwch ei wneud. Os oes gennych unrhyw syniadau newydd, rhowch wybod i ni.

  • Tacluso cymunedol
  • Sesiynau chwarae
  • Mynychu cyfarfodydd Gweithgor y Cyfrif Refeniw Tai i helpu i wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd mae rhent tenantiaid yn cael ei wario
  • Datblygu mannau gwyrdd, e.e. gerddi cymunedol
  • Cystadleuaeth garddio
  • Ysgrifennu erthygl ar gyfer ein cylchlythyr ar-lein
  • Llenwi arolwg a chael cyfle i ennill gwobr!
  • Mynychu grŵp tenantiaid a phreswylwyr
  • Cymryd rhan mewn ymgynghoriad i roi eich barn ar beth ddylai ddigwydd
  • Darllen ein llythyrau a dweud wrthym sut y gallem eu gwneud yn fwy cyfeillgar i denantiaid
  • Mynychu digwyddiadau cymunedol
  • Trefnu gweithgarwch cymunedol, e.e. bore coffi, barbeciw, pêl fonws, bingo, cwis

Pa fanteision sydd i mi?

  • Dy lais yn cael ei glywed
  • Hyfforddiant am ddim
  • Sgiliau a chymwysterau newydd – sy’n dda ar gyfer CV!
  • Gwneud penderfyniadau pwysig i ddylanwadu ar wasanaethau Tai
  • Cwrdd â phobl newydd a chymdeithasu
  • Gwelliant o ran lles

 Pa gymorth neu gefnogaeth fyddaf yn ei dderbyn?

  • Cefnogaeth gan Dîm Cyswllt Cwsmeriaid yr Adran Tai
  • Defnyddio gasebo’r adran Tai
  • Cefnogaeth o ran marchnata/hysbysebu
  • Cyllid
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau defnyddiol
  • Cefnogaeth o ran archebu adeiladau cymunedol/lleoliadau ar gyfer digwyddiadau

Cyllid y Gist Gymunedol

Mae Cronfa’r Gist Gymunedol yn gronfa o arian a gellir gwneud cais i’w defnyddio ar gyfer prosiectau neu ddigwyddiadau a fydd o fudd i’r gymuned leol a chyfran o denantiaid Cyngor Sir Penfro.

Gallwch wneud cais am hyd at £500 ar gyfer eich prosiect. Y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Ionawr, 30 Ebrill, 31 Gorffennaf a 31 Hydref.

Pa grwpiau tenantiaid a phreswylwyr sy'n weithredol ar hyn o bryd?

  • Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Pennar a Bufferland – Yn cwrdd ar  ddydd Mawrth cyntaf pob mis yn yr Alma Inn, Pennar.
  • Grŵp Llywio’r Garth – Yn cwrdd ar ddydd Mercher cyntaf pob mis yn The Hive, Goshawk Road, Hwlffordd.
  • Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Bush and Park – Gwybodaeth i ddilyn
  • Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Albany a Moravian – Yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn
  • Tenantiaid a Phreswylwyr AJH – Gwybodaeth i ddilyn
  • Begelly Golden Age – Gwybodaeth i ddilyn
  • Clwb Cyfeillgarwch Dros 50 Dinbych-y-pysgod – Gwybodaeth i ddilyn
  • Tîm Chwarae Rhieni Ystad Mount (MEPPT) – Sesiynau chwarae am ddim bob dydd Mercher o 3:30pm i 5:30pm yng Nghanolfan y Berllan, Ystad Mount. Rhaid i riant aros gyda’u plant. 

Cylchlythyr Tenantiaid

Medi 2022 (yn agor mewn tab newydd)

Y Tim Swyddogion Cyswllt Cwsmeriaid - Pwy ydyn nhw a beth maen nhw'n ei wneud?

Mae’r Tîm Swyddogion Cyswllt Cwsmeriaid (CLO) yn gweithio yn yr adran Tai i gefnogi tenantiaid i gymryd rhan yn eu cymunedau. Aelodau’r tîm yw Rachel Knight, Katie Mullins a Nia Davies. Mae’n bosibl eich bod wedi cyfarfod â’r tîm neu eu gweld yn eich ardal leol gan eu bod allan ac o amgylch yn aml yn cynnal digwyddiadau, yn cefnogi grwpiau tenantiaid ac yn ymgynghori â thenantiaid.

Sut allaf gysylltu?

Ffôn: 01437 776556

E-bost: housingCLO@pembrokeshire.gov.uk

 

 

ID: 4597, revised 02/10/2024