Cyflwyno Gorfodaeth Tai Preifat

Tm Gorfodi Tai'r Sector Preifat

Yn yr adran hon mae gwybodaeth am dai preifat ar gyfer perchenog-feddianwyr, landlordiaid a thenantiaid. Mae’n cynnwys cyngor ynghylch gwella cyflwr tai, tai amlbreswyliaeth, aflonyddwch/troi mas yn anghyfreithlon ac achosi i dai gwag gael eu hailddefnyddio eto.

Mae gwaith tîm Gorfodi Tai’r Sector Preifat wedi cael ei rannu yn 5 prif ran:

Rhentu Doeth Cymru

Mae bellach yn ofynnol yn ôl y gyfraith i landlordiaid ac asiantau fod yn gofrestredig neu drwyddedig. Daeth y ddeddf newydd hon i rym ar 23ain Tachwedd 2015 ac mae'n berthnasol i holl landlordiaid ac asiantau eiddo preswyl preifat. Bydd angen i Landlordiaid / Asiantau gofrestru / gael trwydded cyn pen 12 mis ar ôl y dyddiad cyflwyno. Gallai peidio â chydymffurfio ennyn rhybudd cosb benodedig / dirwy. Mae Cofrestriadau a Thrwyddedau'n para am gyfnod o 5 mlynedd. Mae modd gwneud ceisiadau ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth: Rhentu Doeth Cymru

Caiff y cynllun ei weinyddu gan Gyngor Caerdydd ar ran holl awdurdodau lleol Cymru.

 

ID: 1793, adolygwyd 13/09/2022