Cyflwyno Gorfodaeth Tai Preifat
Archwiliadau Mewnfudo
Cyn caniatáu cliriad mynediad i’r wlad hon, mae angen cadarnhau weithiau a yw’r llety y bwriedir ei gynnig yn ddiogel ac yn ffit i bobl fyw ynddo, ac a fyddai’r eiddo’n mynd yn orlawn yn statudol pe bai unrhyw berson(au) ychwanegol arfaethedig yn dod i fyw yno.
Mae Cyngor Sir Penfro yn darparu archwiliadau at ddibenion mewnfudo i’r bobl hynny sy’n byw yn y sir.
Gofyn am Archwiliad Mewnfudo
Ni ellir cynnal archwiliad nes bod ffurflen gais wedi’i chwblhau a’r taliad cywir wedi’i dderbyn.
Ffurflen Gais ar gyfer Archwiliad Mewnfudo
Y tâl cyfredol am archwiliad mewnfudo yw £100 a gellir dod o hyd i fanylion y dulliau talu ar y Ffurflen Gais am Archwiliad Mewnfudo.
Ar ôl inni dderbyn y ffurflen gais hon, byddwn yn cysylltu â chi o fewn 10 niwrnod gwaith i drefnu dyddiad ac amser sy’n gyfleus i bawb ar gyfer cynnal ymweliad archwilio. Fel arfer anfonir llythyrau o fewn pum niwrnod gwaith i ddyddiad yr archwiliad.
Beth i’w ddisgwyl
Pan fyddwn yn cyrraedd i gynnal yr archwiliad, byddwn yn gofyn am weld rhai o’r dogfennau gan yr awdurdodau mewnfudo i ddangos eich bod yn y broses o wneud cais. Gallai hyn fod ar ffurf llythyr neu ffurflen swyddogol oddi wrth yr Uchel Gomisiwn perthnasol ac ati, gydag enw’r mewnfudwyr arfaethedig a chyfeirnod ar gyfer cysylltu’r cais ag ef.
Pan fyddwn yn cynnal yr archwiliad, byddwn yn gofyn am weld prawf eich bod yn berchen ar yr eiddo neu’n denant ohono.
Os ydych yn berchen ar yr eiddo, bydd angen i ni weld y gweithredoedd eiddo, datganiad morgais, neu ohebiaeth gan eich darparwr morgais. Os ydych yn rhentu’r eiddo, bydd angen i ni weld cytundeb tenantiaeth cyfredol, a bil cyfleustodau yn eich enw ar gyfer y cyfeiriad o dan sylw.
Yna byddwn yn archwilio’r eiddo cyfan yr ydych yn byw ynddo.
Byddwn yn gofyn i chi ein tywys o amgylch eich eiddo, gan amlinellu pwy sy’n byw yn y tŷ ac ym mha ystafelloedd y maent yn cysgu ynddynt. Yn ystod yr archwiliad, byddwn yn dyfarnu a ydyw’r eiddo’n addas ac yn ddiogel i’w feddiannu, ac a fyddai’n mynd yn orlawn yn statudol pe bai’r person sy’n ceisio mynediad i’r Deyrnas Unedig yn dod i fyw yno.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn cwestiynau ychwanegol i chi os nad ydym yn sicr ynghylch unrhyw beth yr ydym wedi’i weld neu yr ydych wedi’i ddweud wrthym, ac efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu dogfennaeth ychwanegol i ategu’r hyn yr ydych wedi’i ddweud wrthym.
Pan fyddwn wedi cwblhau ein hymchwiliadau, byddwch yn cael llythyr, fel arfer o fewn 5 niwrnod gwaith i’n hymweliad, a fydd yn nodi’r canlynol:
- Eich enw ac enw(au) y person(au) sy’n ceisio mynediad i’r DU.
- Cyfeiriad yr eiddo a archwiliwyd.
- Y person sy’n berchen ar yr eiddo, a phwy sy’n byw ynddo.
- Sut mae’r eiddo’n cael ei feddiannu, a gan bwy.
- P’un a oedd yr eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo ar adeg ein harchwiliad.
- P’un a fyddai’r eiddo’n orlawn yn statudol pe bai’r person sy’n ceisio mynediad i’r DU yn dod i fyw yno.
- Enw’r swyddog i gysylltu ag ef i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r ymgeisydd wedyn yn gyfrifol am anfon y llythyr ymlaen at yr awdurdod priodol i gefnogi’r cais am fewnfudo.
Sylwer:
- Ni fyddwn yn anfon llythyrau oni bai ein bod wedi archwilio’r eiddo.
- Ni fydd yr awdurdodau mewnfudo yn derbyn llythyrau sy’n hŷn na 12 wythnos oed.
- Os daw eich llythyr i ben ar y sail hon, ni fyddwn yn anfon un arall nes y byddwn wedi cynnal archwiliad llawn eto.
I gael rhagor o fanylion ffoniwch 01437 764551.