Cyflwyno Gorfodaeth Tai Preifat

Dadfeiliad mewn Tai sy'n cael eu Rhentu'n Breifat

Beth yw dadfeiliad?
Am beth mae landlordiaid preifat yn gyfrifol?
Mae’n rhaid i’m man byw wedi’i rentu fodloni safon cweiro – beth yw’r safon honno?
Beth sydd gyda’r system fesur i ddweud am ddadfeiliad mewn man byw preifat?
Beth sy’n digwydd os byddaf yn hysbysu achos o ddadfeiliad i’r Cyngor?
Beth yw’r peryglon y mae’r system fesur yn eu cydnabod?
Beth all y Cyngor ei wneud os bydd yn gweld un o’r peryglon hyn mewn eiddo?


Beth yw dadfeiliad mewn tai preifat?

Mae mwyafrif mannau byw ar rent yn Sir Benfro o ansawdd da. Fodd bynnag, nid yw rhai landlordiaid yn cyflawni eu hymrwymiadau cyfreithiol trwy wneud y gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio rheolaidd sydd ar holl eiddo ei angen o bryd i’w gilydd. Mae gyda thîm gorfodi tai’r sector preifat y Cyngor amrywiaeth o bwerau statudol sy’n gadael i ni ddelio â’r broblem hon.

Am beth mae landlordiaid preifat yn gyfrifol?

  • Mae landlordiaid sy’n gosod mannau byw preswyl yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael ei gadw mewn cyflwr da
  • Ers nifer o flynyddoedd, mae gweithwyr proffesiynol iechyd amgylcheddol wedi defnyddio’r Safon Cymhwyster Tai sydd yn Neddf Tai 1985 i benderfynu a yw eiddo’n addas i fyw ynddo.

Mae’n rhaid i’m man byw wedi’i rentu fodloni safon atgyweirio – beth yw’r safon honno?

  • Dywed System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS neu’r System Fesur), pa safon atgyweirio sy’n rhaid i eiddo ei chyrraedd
  • Mae’r system hon yn delio a dadfeiliad a pheryglon eraill all fod yn bresennol mewn man byw preswyl
  • Mae’r system fesur yn berthnasol i eiddo un aelwyd a thai amlbreswyliaeth.

Beth sydd gyda’r system fesur i ddweud am ddadfeiliad mewn man byw preifat?

Dywed y System Fesur y dylai unrhyw eiddo preswyl ddarparu amgylchedd diogel ac iach ar gyfer unrhyw ddeiliad neu ymwelydd agored i niwed.

  • At ddibenion y System Fesur seiliwyd bod yn agored i niwed yn gyfan gwbl ar oed, yn hytrach nag ar unrhyw ffactorau eraill, fel anabledd corfforol
  • At ddibenion y System Fesur y grwpiau mwyaf agored i niwed yw’r ifanc iawn a’r oedrannus
  • Bydd y Cyngor fel arfer yn edrych ai rhywun o un o’r grwpiau agored i niwed uchod sy’n byw yno wrth benderfynu a fydd yn dwyn unrhyw achos yn erbyn landlord.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn hysbysu achos o ddadfeiliad i’r Cyngor?

  • Bydd y Cyngor yn cynnal arolwg o’r eiddo
  • Yn ystod yr arolwg, bydd y swyddog archwilio yn gyntaf yn asesu tebygolrwydd y bydd rhywbeth yn digwydd yn yr eiddo o fewn y 12 mis nesaf. Gwelwch y rhestr isod o beryglon y mae’r system fesur yn eu cydnabod.
  • Yna bydd yn edrych ar yr effeithiau ar iechyd y deiliad neu ymwelydd.
  • Bydd pob archwiliad yn arwain at sgôr rifiadol fydd yn penderfynu pa gamau gweithredu fydd y Cyngor yn eu cymryd. Os yw’r sgôr uwchlaw rhif arbennig, bydd y Cyngor dan ymrwymiad cyfreithiol i gymryd camau gorfodi, hyd yn oed os nad yw’r deiliad eisiau hyn.
  • Os bydd archwiliad yn nodi perygl sy’n arwain at sgôr gymharol isel, gall y Cyngor benderfynu pa gamau i’w cymryd.

Beth yw’r peryglon y mae’r system fesur yn eu cydnabod?

Cwympo ar staer yw dim ond un o’r 29 perygl y mae’r System Fesur yn eu defnyddio. Rhannwyd y peryglon yn 4 gwahanol gategori:

Gofynion Ffisiolegol

  • Lleithder a llwydni
  • Oerfel gormodol
  • Gwres gormodol
  • Asbestos
  • Bywleiddiaid
  • Carbon monocsid a chynhyrchion ymlosgiad tanwydd
  • Plwm
  • Ymbelydredd
  • Nwy tanwydd heb losgi

Amddiffyniad rhag Haint

  • Glanweithdra cartref, plâu a gwastraff
  • Diogelwch bwyd
  • Glendid personol, carthffosiaeth a draenio
  • Cyflenwad dŵr

Amddiffyniad rhag Damweiniau

  • Cwympo cysylltiedig â baddonau ac ati
  • Cwympo ar arwynebau gwastad ac ati
  • Cwympo ar staer ac ati
  • Cwympo rhwng lefelau
  • Peryglon trydanol
  • Tân
  • Fflamau, arwynebau poeth ac ati
  • Gwrthdrawiadau a methu dianc
  • Ffrwydradau
  • Sefyllfa a gweithiadwyedd amwynderau ac ati
  • Cwymp adeileddol a phethau’n cwympo

Gofynion Seicolegol

  • Gorlenwi a gofod
  • Mynediad tresbaswyr
  • Goleuo
  • Sŵn

Beth all y Cyngor ei wneud os bydd yn gweld un o’r peryglon uchod mewn eiddo?

  • Mae Deddf Tai 2004 yn rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol weithredu os oes unrhyw un o’r peryglon a restrwyd uchod yn bresennol mewn eiddo, ac yr ystyrir eu bod yn achosi perygl sylweddol i’r preswylydd mwyaf clwyfadwy all fyw yno.
  • Mae’r Ddeddf yn caniatáu i’r Cyngor fynnu bod y landlord yn gwella’r eiddo.
  • Mewn rhai achosion, bydd y Cyngor yn cymryd camau adfer di-oed ei hun i ddileu perygl ac adennill unrhyw gostau oddi wrth y landlord. Enghraifft nodweddiadol fyddai lle gwelwyd bod bwyler nwy’n beryglus ar y pryd, h.y. yn cynhyrchu carbon monocsid.

Sut mae cael gwybod mwy?

Os hoffech wybod mwy neu os ydych angen unrhyw gyngor, cysylltwch â;


Cyflwyno Gorfodaeth Tai Preifat
01437 764551
housenfpri@pembrokeshire.gov.uk


ID: 1794, adolygwyd 07/02/2023