Cyflwyno Gorfodaeth Tai Preifat
Tai amlbreswyliaeth
A yw holl dai amlbreswyliaeth yn gorfod cael eu trwyddedu?
Sut mae gwneud cais am drwydded?
Beth am dai nad yw trwyddedu’n effeithio arnynt?
Beth yw tŷ amlbreswyliaeth?
Dan y ddeddfwriaeth newydd, tŷ amlbreswyliaeth yw eiddo sydd:-
- Gyda 3 neu fwy o bobl yn byw ynddo, yn ffurfio 2 dyaid neu fwy, yn rhannu amwynderau, e.e. ystafell ymolchi a chyfleusterau cegin, neu
- Wedi ei addasu’n fflatiau hunangynhwysol, ond heb fod yn ateb gofynion Rheoliadau Adeiladu 1991 ac o leiaf draean y fflatiau ar osod yn breifat, neu
- Gyda 3 neu fwy o bobl yn byw ynddo, yn ffurfio 2 dyaid neu fwy, mewn adeilad a addaswyd nad yw yn hollol hunangynhwysol e.e. fflat islawr yn rhannu’r adeilad mewn fflat deulawr ar y llawr cyntaf a’r ail lawr.
Beth yw tyaid unigol?
Dywed Adran 258 o Ddeddf Tai 2004, bod pobl yn gorfod bod yn aelodau o’r un teulu i gyfrif fel tyaid unigol. Mae hyn yn cynnwys;
- Parau priod, neu’r rhai’n byw fel gŵr a gwraig, gan gynnwys y rhai mewn perthynas gyfartal yr un rhyw neu
- Un ohonynt yn berthynas i’r llall
Mae ‘perthynas’ yn cynnwys rhiant, nain neu daid, mab neu ferch, ŵyr neu wyres, brawd, chwaer, modryb, ewythr, nai, nith, gefnder neu gyfnither a hanner perthnasau, llysblant a phlant maeth.
Mae tyaid unigol hefyd yn cynnwys unrhyw staff domestig os ydynt yn byw heb dalu rhent mewn llety sy’n cael ei ddarparu gan eu cyflogwr.
A yw holl dai amlbreswyliaeth yn gorfod cael eu trwyddedu?
Nac ydynt.
Nid yw tŷ amlbreswyliaeth a ffurfiwyd o fflatiau hunangynhwysol angen trwydded.
Dywed Deddf Tai 2004 bod mathau arbennig o dai amlbreswyliaeth yn gorfod cael eu trwyddedu – Trwyddedu Gorfodol yw hyn.
Trwyddedu Gorfodol
Mae hyn berthnasol i dŷ amlbreswyliaeth sydd:
- Yn dri llawr neu fwy o uchder a,
- Gyda 5 neu fwy o bobl yn byw ynddynt nad ydynt yn ffurfio tyaid unigol.
Sut mae gwneud cais am drwydded?
Os cofrestrwyd eich eiddo eisoes dan ein cynllun presennol, bydd eich manylion gennym a byddwn yn cysylltu â chi. Bydd eich eiddo’n cael ei drosglwyddo i drwyddedu tai amlbreswyliaeth. Byddwch yn derbyn trwydded yn ddiofyn a bydd hon yn para am weddill y cyfnod cofrestru.
Dylai ceiswyr newydd gysylltu â’r tîm Tai Sector Preifat am becyn gwneud cais. Bydd ffurflenni cais ar gael ar y wefan hon yn fuan.
Beth am dai amlbresywliaeth nad yw trwyddedu’n effeithio arnynt?
Rhaid i holl dai amlbreswyliaeth, waeth be fo eu maint neu leoliad, yn dal i orfod cyrraedd safonau gorfodol diogelu rhag tân. Cysylltwch â’r tîm Tai Sector Preifat i gael rhagor o wybodaeth.
Sut mae cael gwybod mwy?
Os hoffech gael gwybod rhagor neu os oes angen cyngor arnoch, byddwch cystal â chysylltu â;
Cyflwyno Gorfodaeth Tai Preifat
01437 764551
housenfpri@pembrokeshire.gov.uk