Cyfrif Refeniw Tai Cynllun Busnes
Cyfrif Refeniw Tai Cynllun Busnes
Cyflwyniad a chyd-destun strategol
Mae'r cynllun hwn yn nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu rheoli ei adnoddau yn y Cyfrif Refeniw Tai i gefnogi'r gwaith o ddarparu tai cyngor o ansawdd uchel yn Sir Benfro. Mae hyn o safbwynt cynnal a gwella ein stoc dai bresennol, a chefnogi a rheoli tenantiaethau, hyd at ddatblygu cartrefi newydd i ddiwallu angen parhaus dros y 30 mlynedd nesaf.
Mae'r cynllun yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y portffolio tai cyngor a blaenoriaethau'r cyngor ar gyfer buddsoddi mewn cartrefi a gwasanaethau i ddiwallu'r angen am dai yn Sir Benfro yn effeithiol. Mae hefyd yn nodi'r prif gyfleoedd a bygythiadau i gyflawni'r cynllun busnes, a sut y caiff y rhain eu rheoli. Yn benodol eleni, a Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2 ar ei ffurf ddiwygiedig wedi’i lansio yn hwyr yn 2023, rydym wedi proffilio goblygiadau’r gofynion newydd hyn yn y cynllun ariannol, sydd wedi golygu y bu'n rhaid lleihau nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu yn ystod y cynllun busnes o'i gymharu â'r cynllun a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2023–2053. Mae gofynion newydd SATC yn 2023 yn cynnwys safonau a gofynion diwygiedig sy’n ymwneud â datgarboneiddio ein cartrefi, a mesurau uwch yn ymwneud â gorchuddion llawr, casgenni dŵr a mannau storio diogel sy’n cyfrannu’n gronnol at ofynion ariannol ychwanegol. Mae hyn felly wedi effeithio ar y cyllid sydd ar gael i barhau yn gyflym ag adeiladu tai newydd ychwanegol i ychwanegu at ein stoc. Ymhellach, mae pwysau parhaus costau adeiladu uchel hefyd yn cyfrannu at bwysau ariannol y cynllun, sy'n golygu bod llai o wydnwch i gynnydd pellach mewn costau neu ostyngiadau mewn cyllid. Mae'r cynllun yn dibynnu'n helaeth ar ragdybiaethau y bydd grantiau cyfalaf sylweddol ar gael i gyfrannu at ein rhaglen adeiladu newydd yn y dyfodol.
Ni fu’r angen am dai cymdeithasol erioed mor uchel, gyda phwysau lluosog ar y galw am dai o bob deiliadaeth. Rydym yn gweld aelwydydd ar y gofrestr tai nad ydynt erioed wedi bod ag angen cymorth tai cymdeithasol o’r blaen, ac mae hyn yn pwysleisio’r angen i ystyried pob math o ddeiliadaeth a math o dai i ddiwallu anghenion ein poblogaeth. Mae strategaeth dai wedi’i chytuno ar gyfer y sir sy’n cwmpasu’r angen ehangach am dai ac mae copi o’r ddolen fel a ganlyn:
Mae tai felly yn ffurfio un o'r blaenoriaethau corfforaethol strategol allweddol ar gyfer Sir Benfro. Yn Strategaeth Gorfforaethol 2023–2028 a Rhaglen Weinyddu 2022–2027, mae yno ymrwymiad bod tai priodol ar gael a’u bod yn hygyrch ac yn fforddiadwy gyda’r genhadaeth ganlynol:
‘Byddwn yn arloesol wrth ymdrin â'r heriau tai yr ydym yn eu hwynebu trwy sicrhau bod gan bobl Sir Benfro fynediad at gartref addas sydd o safon uchel, yn fforddiadwy ac yn gwella’u hansawdd bywyd.’
Yn berthnasol i’r cynllun busnes hwn, cytunwyd ar y prif ddangosyddion penodol a ganlyn:
- Datblygu hyd at 300 o unedau tai newydd yn uniongyrchol erbyn 2027 ynghyd â bwrw ymlaen â datblygu ein tai gwarchod i bobl hŷn a’n darpariaeth byw â chymorth.
- Cyflymu’r broses o ddarparu tai yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i gynyddu’r ystod o brosiectau tai fforddiadwy, gan gynnwys datblygu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a sicrhau bod lleiniau llai o dir y cyngor ar gael i’r rhai sy’n chwilio am gyfleoedd hunanadeiladu. Bydd hyn yn helpu i dyfu cyflenwad tai Sir Benfro.
- Darparu gwasanaeth landlord o safon sy’n gwrando ac yn ymateb i anghenion ein tenantiaid.
- Nodi cyfleoedd ar gyfer adfywio ein stadau presennol wrth dyfu ein stoc dai a gwella'r amgylchedd ar yr un pryd.
- Gweithio tuag at ddatgarboneiddio ein stoc dai ein hunain yn ogystal â chefnogi deiliaid tai preifat i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
Mae nifer o ysgogwyr polisi cenedlaethol a deddfwriaethol arwyddocaol eraill yn parhau i ddylanwadu ar ofynion a blaenoriaethau ar gyfer ein stoc dai. Mae’r gofynion a osodwyd arnom wrth ddatblygu strategaeth a pholisi lleol mewn ymateb i’r rhain yn cynnwys:
- Targed Llywodraeth Cymru o adeiladu 20,000 yn fwy o gartrefi fforddiadwy yn nhymor y llywodraeth hon.
- Newidiadau i ddeddfwriaeth ddigartrefedd a pholisïau sy'n atgyfnerthu'r polisi ‘Neb Heb Help’ - strategaeth / cynlluniau dwy sir wedi'u cyflwyno gerbron y cabinet - strategaeth y rhaglen cymorth tai a’r cynllun pontio ailgartrefu cyflym.
- Cyflwyno mesurau polisi a deddfwriaethol ychwanegol yn raddol i leihau effaith ail gartrefi a gosodiadau gwyliau. Yn fwy diweddar, mae cytundeb Cyngor Sir Penfro i godi premiwm treth gyngor ar ail gartrefi ac ar eiddo gwag hirdymor yn cydnabod yr effaith y mae nifer y cartrefi o'r fath yn ei chael ar y cyflenwad tai a'r ffaith nad yw prisiau tai cyffredinol yn fforddiadwy i sector mawr o'n poblogaeth breswyl.
- Arian grant wedi’i anelu at gynyddu’r cyflenwad o dai ac i leddfu’r pwysau ar ddigartrefedd a dilyn rhaglen adsefydlu dinasyddion Wcráin – Grant Tai Cymdeithasol, y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol.
- Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) wedi cyflwyno newidiadau sylweddol mewn contractau tenantiaethau tai ac mae hyn wedi cael goblygiadau sylweddol ar y gwasanaeth rheoli tenantiaethau wrth reoli eu cyflwyno.
Mae'r holl flaenoriaethau strategol hyn yn nodwedd gref o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, gan atgyfnerthu'r cyfraniad clir sydd gan dai cyngor at wneud Sir Benfro yn sir ffyniannus.