Cyllid a Busnes
Archwilio Cyfrifon
Croeso i’n harchwiliad cyhoeddus o gyfrifon ar-lein a fydd ar agor o 5th January 2026 i 30 Ionawr 2026.
Cyfrifon Cyngor Sir Penfro a Harbwr Cwm Abergwaun a Dinbych-y-pysgod
Mae’r ffeiliau data yma yn cynnwys y canlynol:
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Credydwyr) – Rhestr o’r taliadau a wnaed i gyflenwyr trwy’r system Taliadau Credydwyr.
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Banc) - Rhestr o’r taliadau a wnaed i gyflenwyr yn uniongyrchol drwy gyfrif banc y Cyngor.
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Cerdyn Prynu) – Rhestr o’r taliadau a wnaed i gyflenwyr trwy ddefnyddio Cardiau Prynu’r Cyngor.
- Ffeil Archwilio Dyledwyr – Rhestr o Anfonebau a anfonwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn.
- Crynodeb Aelodau – Crynodeb o Daliadau a wnaed i Gynghorwyr
I ofyn am ragor o wybodaeth, llenwch y ffurflen ymholi ganlynol a rhoi’r canlynol:
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Credydwyr) – cyfeir-rif y Daleb ac Enw’r Gwerthwr.
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Banc) – rhif cyfrif y Talai, a dyddiad y taliad.
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Cerdyn Prynu) – enw’r Cyflenwr, Cyfenw Deiliad y Cerdyn, dyddiad y Trafodiad, Mis y Taliad a Gwerth Crynswth.
- Ffeil Dyledwyr - (cyfeir-rif y Ddyled, Enw’r Dyledwr a’r Swm Crynswth)
- Crynodeb Aelodau
Partneriaeth
Mae’r ffeiliau data yma yn cynnwys y canlynol:
- Archwiliad Cyhoeddus Partneriaeth (Taliadau Credydwyr) – Rhestr o’r taliadau a wnaed i gyflenwyr drwy’r system Taliadau Credydwyr.
- Archwiliad Cyhoeddus Partneriaeth (Taliadau Cerdyn Prynu) – Rhestr o’r taliadau a wnaed i gyflenwyr trwy ddefnyddio Cardiau Prynu’r Cyngor.
- Dyledwyr Partneriaeth – Rhestr o Anfonebau a anfonwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn.
I ofyn am ragor o wybodaeth, llenwch y ffurflen ymholi ganlynol a rhoi’r canlynol:
- Archwiliad Cyhoeddus Partneriaeth (Taliadau Credydwyr) – cyfeir-rif y Daleb ac Enw’r Gwerthwr.
- Archwiliad Cyhoeddus Partneriaeth (Taliadau Cerdyn Prynu) – enw’r Cyflenwr, Cyfenw Deiliad y Cerdyn, dyddiad y Trafodiad, Mis y Taliad a Gwerth Crynswth.
- Dyledwyr Partneriaeth
Rhybudd archwilio
Cyngor Sir Penfro a Harbwr Cwm Abergwaun a Dinbych-y-pysgod - Archwiliad cyfrifon 2024-25
ID: 532, adolygwyd 01/12/2025