Cyllid a Busnes
Cyngor Sir Penfro ac awdurdod Porthladdoedd Dinbych y Pysgod a chwm Abergwaun Archwiliad Cyfrifon 2022-23
Trwy hyn rhoddir rhybudd yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus 2004, a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau 2014, (fel y’u diwygiwyd)
- O ddydd Llun 8fed Ionawr 2024 i ddydd Gwener 2il Chwefror 2024 yn gynwysedig, y caiff unrhyw un â diddordeb, yn amodol ar Adran 30 y Ddeddf:
Archwilio a gwneud copïau ac ymholiadau ynghylch cyfrifon y cyrff a enwir uchod am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2023, a holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau perthynol trwy fewngofnodi i Archwilio Cyfrifon
Dylid gwneud pob ymholiad trwy ein gwefan fel mynediad llym.
- Ar neu ar ôl dydd 6ed Chwefror 2024 am 9.00yb, bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru, 1 Capitol Quarter, Stryd Tyndall Caerdydd, CF10 4BZ, ar gais unrhyw etholwyr llywodraeth leol o’r ardal y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi, yn rhoi cyfle i’r etholwr neu ei gynrychiolydd ei holi am y cyfrifon drwy apwyntiad fideo ar-lein. Mae modd gwneud trefniant naill ai trwy anfon e-bost at jeremy.saunders@audit.wales neu drwy ffonio 02920 829329.
- Fe all unrhyw etholwyr llywodraeth leol o ran unrhyw ardal y mae’r cyfrifon hynny’n berthnasol iddi, neu unrhyw gynrychiolwyr ar eu rhan, fynychu ger bron yr archwilydd a gwneud gwrthwynebiadau ynghylch
- unrhyw fater y mae gan yr archwilydd bŵer i wneud cais am ddatganiad ar ei gyfer dan Adran 32 y Ddeddf;
- unrhyw fater arall y gallai’r archwilydd wneud adroddiad arno dan Adran 22 y Ddeddf.
- Nid oes modd gwneud unrhyw wrthwynebiad dan (3) uchod gan neu ar ran etholwr llywodraeth leol oni bai fod yr archwilydd eisoes wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig o’r gwrthwynebiad arfaethedig ac ar ba sail y caiff ei wneud, a bod copi o’r rhybudd wedi’i anfon at y corff y mae ei gyfrifon yn destun archwiliad.
J. Haswell
Cyfarwyddwr Adnoddau
ID: 11254, adolygwyd 20/12/2023