Cyllid a Busnes
Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Porthladdoedd Dinbych-y-Pysgod a Chwm Abergwaun Archwiliad Cyfrifon 2023-24
Trwy hyn rhoddir rhybudd yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus 2004, a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau 2014, (fel y’u diwygiwyd)
1. O ddydd Llun 19fed o Awst i ddydd Llun 16fed o Medi yn gynwysedig, y caiff unrhyw un â diddordeb, yn amodol ar Adran 30 y Ddeddf:
(a) Archwilio a gwneud copïau ac ymholiadau ynghylch cyfrifon y cyrff a enwir uchod am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024, a holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau perthynol trwy fewngofnodi i Archwilio Cyfrifon
(b) Fel arall, mae cyfrifiaduron ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio gyda mynediad am ddim i'r rhyngrwyd ym mhob un o Lyfrgelloedd Sir Benfro, lle gellir cael y wybodaeth a nodir yn (a) uchod.
2. Ar neu ar ôl dydd Llun 16fed Medi am 10.00yb, bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Cathedral Road, Caerdydd, CF11 9LJ, ar gais unrhyw etholwyr llywodraeth leol o’r ardal y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi, yn rhoi cyfle i’r etholwr neu ei gynrychiolydd ei holi am y cyfrifon drwy apwyntiad fideo ar-lein neu yn Swyddfa Archwilio Cymru, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP. Mae modd gwneud trefniant naill ai trwy anfon e-bost at adrian.crompton@audit.wales neu drwy ffonio 02920 320500.
Rydym yn eich annog i drefnu apwyntiad ar-lein yn hytrach nag ymweld yn bersonol. Lle bo angen ymweld â Neuadd y Sir, caniateir mynediad trwy apwyntiad yn unig ac mae’n rhaid cadw at ganllawiau mynediad llym.
3. Fe all unrhyw etholwyr llywodraeth leol o ran unrhyw ardal y mae’r cyfrifon hynny’n berthnasol iddi, neu unrhyw gynrychiolwyr ar eu rhan, fynychu ger bron yr archwilydd a gwneud gwrthwynebiadau ynghylch
a) unrhyw fater y mae gan yr archwilydd bŵer i wneud cais am ddatganiad ar ei gyfer dan Adran 32 y Ddeddf;
b) unrhyw fater arall y gallai’r archwilydd wneud adroddiad arno dan Adran 22 y Ddeddf.
c) Nid oes modd gwneud unrhyw wrthwynebiad dan (3) uchod gan neu ar ran etholwr llywodraeth leol oni bai fod yr archwilydd eisoes wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig o’r gwrthwynebiad arfaethedig ac ar ba sail y caiff ei wneud, a bod copi o’r rhybudd wedi’i anfon at y corff y mae ei gyfrifon yn destun archwiliad.
J. Haswell
Cyfarwyddwr Adnoddau