Cyllid a Busnes

Hoffech chi ymuno an tim Cyllid?

Ydych chi eisiau datblygu eich gyrfa ym maes Cyllid?

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gwaith gwych wedi’u lleoli yn Sir Benfro hardd.

Mae gyrfa gyda ni yn golygu y gallwch gael effaith uniongyrchol nid yn unig ar y gwasanaethau rydym yn eu cynnig ond ar y gymuned ehangach hefyd. Mae ein hadran Gyllid yn wasanaeth hanfodol o fewn yr Awdurdod sy'n cynnig cymorth dyddiol i reolwyr ym mhob maes, gan helpu mynd i'r afael â'r heriau ariannol parhaus a chynnal darpariaeth gwasanaeth cynaliadwy i'n Sir dros y tymor canolig. 

Yn y Gwasanaethau Ariannol, rydym yn ymdrechu i amlygu cyfleoedd gwasanaeth ac ariannol arloesol a ffyrdd gwell o weithio, fel ein System Rheoli Gwybodaeth Ariannol newydd a thrwy groesawu'r tueddiadau newidiol o ran gweithio o bell.

Rydym ar fin cychwyn ar Raglen Gwella Cyllid ar draws yr Awdurdod, gan sicrhau bod cyllid ar flaen y gad ym mhob agwedd, a bod rheolwyr gwasanaethau a'r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau ariannol eu gweithredoedd, gan sicrhau gwerth am arian a sicrhau defnydd doeth o adnoddau cyhoeddus.

Ni fu amser mwy cyffrous i ymuno â'r tîm deinamig hwn.

Rydym wedi ymroi i ddarparu cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith drwy ddarparu hyblygrwydd, gan sicrhau eich bod yn teimlo'n gysylltiedig ac yn rhan o dîm cydlynol.

Nodyn: 

  • Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd hyn yn digwydd dros alwad fideo.
  • Rydym yn chwilio am unigolion sy’n frwd am gyllid a all arwain, hysbysu a chefnogi rheolwyr gwasanaethau, gan hefyd fod yn arloesol ym maes gwasanaethau ariannol i helpu i gryfhau ein tîm dros y blynyddoedd nesaf.
ID: 8695, adolygwyd 04/11/2022