Cyllid a Busnes

Menter Twyll Cenedlaethol (MTC)

Bydd Cyngor Sir Penfro’n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol 2024-25

Fel awdurdod cyhoeddus, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith ein bod ni’n diogelu’r arian cyhoeddus yr ydym yn ei weinyddu. Gallwn rannu gwybodaeth a ddarperir i ni â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal a chanfod twyll.

Yr Archwilydd Cyffredinol sy’n gyfrifol am gynnal ymarferion paru data dan ei bwerau dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae paru data’n golygu cymharu cofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan un corff gyda chofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan yr un corff neu gorff gwahanol, i weld i ba raddau maen nhw’n cyfateb. Gwybodaeth bersonol yw hon fel arfer. Mae cymharu data cyfrifiadurol yn caniatáu i hawliadau a thaliadau twyllodrus gael eu canfod. Lle ceir cyfatebiaeth, dangosir bod yna nghysondeb y mae angen ei ymchwilio ymhellach. Ni ellir rhagdybio a oes twyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.

Ar  hyn o bryd mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn i ni gymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn i’r awdurdod hwn ddarparu gwybodaeth a ddelir ganddo at y diben hwn. Mae’n ofynnol ein bod yn darparu setiau penodol o ddata i’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer paru data. Nodir y manylion ar wefan Archwilio Cymru, Gwefan Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Gan fod defnydd data gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data yn cael ei wneud gydag awdurdod statudol (Rhan 3 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004), nid oes angen caniatâd yr unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Mae’r gwaith o baru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn amodol ar God Ymarfer. Mae hyn er mwyn helpu pob corff sy’n ymwneud â pharu data i gydymffurfio â’r gyfraith ac arfer da, gan gynnwys cadw data’n ddiogel (gweler Gwefan Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd)).

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a’r rhesymau pam ei fod yn paru gwybodaeth benodol, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd) neu cysylltwch â:

Matthew Holder (Rheolwr Archwiliadau, Risg a Gwrth-dwyll) ar 01437 776581 matthew.holder@pembrokeshire.gov.uk 

neu

Charlotte Hodges (Prif Archwilydd Arweiniol) ar 01437 775899 charlotte.hodges@pembrokeshire.gov.uk.  

ID: 530, adolygwyd 10/09/2024