Cyllid a Busnes

Partneriaeth Archwilio Cyfrifon 2023-24

Trwy hyn rhoddir rhybudd yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus 2004, a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau 2014, (fel y’u diwygiwyd)

1. O ddydd Llun 19fed o Awst 2024 i ddydd Llun 16fed Medi 2024 yn gynwysedig, y caiff unrhyw un â diddordeb, yn amodol ar Adran 30 y Ddeddf:

Archwilio a gwneud copïau ac ymholiadau ynghylch cyfrifon y corff a enwir uchod am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024, a holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau perthynol trwy fewngofnodi i Archwilio Cyfrifon

Dylid gwneud pob ymholiad trwy ein gwefan fel mynediad llym.

2. Ar neu ar ôl dydd Llun 16fed Medi 2024 am 10.00yb, bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru, 1 Capial Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ, ar gais unrhyw etholwyr llywodraeth leol o’r ardal y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi, yn rhoi cyfle i’r etholwr neu ei gynrychiolydd ei holi am y cyfrifon drwy apwyntiad fideo ar-lein.  Mae modd gwneud trefniant naill ai trwy anfon e-bost at adrian.crompton@audit.wales neu drwy ffonio 02920 320500.

3. Fe all unrhyw etholwyr llywodraeth leol o ran unrhyw ardal y mae’r cyfrifon hynny’n berthnasol iddi, neu unrhyw gynrychiolwyr ar eu rhan, fynychu ger bron yr archwilydd a gwneud gwrthwynebiadau ynghylch

a) unrhyw fater y mae gan yr archwilydd bŵer i wneud cais am ddatganiad ar ei gyfer dan Adran 32 y Ddeddf;

b) unrhyw fater arall y gallai’r archwilydd wneud adroddiad arno dan Adran 22 y Ddeddf.

4. Nid oes modd gwneud unrhyw wrthwynebiad dan (3) uchod gan neu ar ran etholwr llywodraeth leol oni bai fod yr archwilydd eisoes wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig o’r gwrthwynebiad arfaethedig ac ar ba sail y caiff ei wneud, a bod copi o’r rhybudd wedi’i anfon at y corff y mae ei gyfrifon yn destun archwiliad.

 

J. Haswell

Cyfarwyddwr Adnoddau

ID: 11924, adolygwyd 01/11/2024