Cyllid a Busnes
Hoffech chi ymuno an tim Cyllid?
Ydych chi eisiau datblygu eich gyrfa ym maes Cyllid?
Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gwaith gwych wedi’u lleoli yn Sir Benfro hardd.
Mae gyrfa gyda ni yn golygu y gallwch gael effaith uniongyrchol nid yn unig ar y gwasanaethau rydym yn eu cynnig ond ar y gymuned ehangach hefyd. Mae ein hadran Gyllid yn wasanaeth hanfodol o fewn yr Awdurdod sy'n cynnig cymorth dyddiol i reolwyr ym mhob maes, gan helpu mynd i'r afael â'r heriau ariannol parhaus a chynnal darpariaeth gwasanaeth cynaliadwy i'n Sir dros y tymor canolig.
Yn y Gwasanaethau Ariannol, rydym yn ymdrechu i amlygu cyfleoedd gwasanaeth ac ariannol arloesol a ffyrdd gwell o weithio, fel ein System Rheoli Gwybodaeth Ariannol newydd a thrwy groesawu'r tueddiadau newidiol o ran gweithio o bell.
Rydym ar fin cychwyn ar Raglen Gwella Cyllid ar draws yr Awdurdod, gan sicrhau bod cyllid ar flaen y gad ym mhob agwedd, a bod rheolwyr gwasanaethau a'r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau ariannol eu gweithredoedd, gan sicrhau gwerth am arian a sicrhau defnydd doeth o adnoddau cyhoeddus.
Ni fu amser mwy cyffrous i ymuno â'r tîm deinamig hwn.
Rydym wedi ymroi i ddarparu cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith drwy ddarparu hyblygrwydd, gan sicrhau eich bod yn teimlo'n gysylltiedig ac yn rhan o dîm cydlynol.
Nodyn:
- Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd hyn yn digwydd dros alwad fideo.
- Rydym yn chwilio am unigolion sy’n frwd am gyllid a all arwain, hysbysu a chefnogi rheolwyr gwasanaethau, gan hefyd fod yn arloesol ym maes gwasanaethau ariannol i helpu i gryfhau ein tîm dros y blynyddoedd nesaf.
Partion cysylltiedig Aelodau a Swyddogion
Datganiadau Addysg Ysgolion
2022-23
Datganiad Cyllideb Addysg 2022-23
2021-2022
Datganiad Cyllideb Addysg 2021-22
Datganiad alldro gwariant addysg 2021-22
2020-2021
Datganiad Cyllideb Addysg 2020-21
Datganiad Alldro Gwariant Addysg 2020-21
2019-2020
Datganiad Cyllideb Addysg 2019-20
Datganiad Alldro Gwariant Addysg 2019-20
2018-2019
Datganiad Cyllideb Addysg 2018-19
Datganiad Alldro Gwariant Addysg 2018-19
2017-2018
Datganiad Cyllideb Addysg 2017-18
Datganiad Alldro Gwariant Addysg 2017-18
2016-2017
Datganiad Alldro Gwariant Addysg 2016-17
Ffioedd a Thaliadau
Mae'r Cyfeirlyfr Ffioedd a Thaliadau 2023-24, sy'n dangos yr holl ffioedd a thaliadau sy'n cael eu codi gan Gyngor Sir Penfro ar hyn o bryd, yn dal i gael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl, ar ôl cael ei gwblhau.
Menter Twyll Cenedlaethol (MTC)
Bydd Cyngor Sir Penfro’n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol 2022-23
Fel awdurdod cyhoeddus, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith ein bod ni’n diogelu’r arian cyhoeddus yr ydym yn ei weinyddu. Gallwn rannu gwybodaeth a ddarperir i ni â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal a chanfod twyll.
Yr Archwilydd Cyffredinol sy’n gyfrifol am gynnal ymarferion paru data dan ei bwerau dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Mae paru data’n golygu cymharu cofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan un corff gyda chofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan yr un corff neu gorff gwahanol, i weld i ba raddau maen nhw’n cyfateb. Gwybodaeth bersonol yw hon fel arfer. Mae cymharu data cyfrifiadurol yn caniatáu i hawliadau a thaliadau twyllodrus gael eu canfod. Lle ceir cyfatebiaeth, dangosir bod yna nghysondeb y mae angen ei ymchwilio ymhellach. Ni ellir rhagdybio a oes twyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.
Ar hyn o bryd mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn i ni gymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn i’r awdurdod hwn ddarparu gwybodaeth a ddelir ganddo at y diben hwn. Mae’n ofynnol ein bod yn darparu setiau penodol o ddata i’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer paru data. Nodir y manylion ar wefan Archwilio Cymru, Gwefan Archwilio Cymru.
Gan fod defnydd data gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data yn cael ei wneud gydag awdurdod statudol (Rhan 3 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004), nid oes angen caniatâd yr unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.
Mae’r gwaith o baru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn amodol ar God Ymarfer. Mae hyn er mwyn helpu pob corff sy’n ymwneud â pharu data i gydymffurfio â’r gyfraith ac arfer da, gan gynnwys cadw data’n ddiogel (gweler Gwefan Archwilio Cymru).
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a’r rhesymau pam ei fod yn paru gwybodaeth benodol, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru neu cysylltwch â:
Matthew Holder (Rheolwr Archwiliadau, Risg a Gwrth-dwyll) ar 01437 776581 matthew.holder@pembrokeshire.gov.uk
neu
Charlotte Hodges (Prif Archwilydd) ar 01437 775899 charlotte.hodges@pembrokeshire.gov.uk.
Cyfriflenni
2022-2023
Datganiad o Gyfrifon Cyngor Sir Penfro ar gyfer 2022-23
Mae rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (wedi’i ddiwygio) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Awdurdod Harbwr Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun Isaflofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi, ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2023.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ei hamserlen ar gyfer 2022-23 i 31 Gorffennaf 2023, mewn ymateb i'r pandemig a materion archwilio asedau seilwaith a godwyd y llynedd ac a darfodd ar yr amserlen safonol ar gyfer paratoi cyfrifon.
Nid yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023. Bydd y datganiad o gyfrifon yn cael ai baratoi, a bydd y Swyddog Ariannol Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio'r datganiad o gyfrifon cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl.
Datganiad o Gyfrifon Awdurdod Harbwr Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun Isaf ar gyfer 2022-23
Mae rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (wedi’i ddiwygio) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Awdurdod Harbwr Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun Isaflofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi, ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2023.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ei hamserlen ar gyfer 2022-23 i 31 Gorffennaf 2023, mewn ymateb i'r pandemig a materion archwilio asedau seilwaith a godwyd y llynedd ac a darfodd ar yr amserlen safonol ar gyfer paratoi cyfrifon.
Nid yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023. Bydd y datganiad o gyfrifon yn cael ai baratoi, a bydd y Swyddog Ariannol Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio'r datganiad o gyfrifon cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl.
Datganiad o Gyfrifon Partneriaeth ar gyfer 2022-23
Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (wedi’i ddiwygio) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol o Cydbwyllgor Partneriaeth yn llofnodi ac yn dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi, ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2023.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ei hamserlen ar gyfer 2022-23 i 31 Gorffennaf 2023, mewn ymateb i'r pandemig a materion archwilio asedau seilwaith a godwyd y llynedd ac a darfodd ar yr amserlen safonol ar gyfer paratoi cyfrifon.
Nid yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023. Bydd y datganiad o gyfrifon yn cael ai baratoi, a bydd y Swyddog Ariannol Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio'r datganiad o gyfrifon cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl.
2021-2022
Datganiad o Gyfrifon Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) 2021-22
Datganiad o Gyfrifon Awdurdod Harbwr Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun Isad ar gyfer 2021-22
Datganiad Cyfrifon Cyngor Sir Penfro 2021-2022
Hysbysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad - Datganiad o Gyfrifon 2021-22
Hysbysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad - Datganiad o Gyfrifon ERW 2021-22
Datganiad o Gyfrifon Awdurdod Harbwr Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun Isad ar gyfer 2021-22
2020-2021
Datganiad Cyfrifon Cyngor Sir Penfro 2020-21
Datganiad o Gyfrifon Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) 2020-21
Hysbysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad - Datganiad o Gyfrifon ERW 2020-21
Datganiad o Gyfrifon Awdurdod Harbwr Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun Isad ar gyfer 2020-21
Hysbysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad - Datganiad o Gyfrifon 2020-21
Hysbysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad - Datganiad o Gyfrifon Harbyrau 2020-21
2019-2020
Datganiad Cyfrifon Cyngor Sir Penfro 2019-20
Datganiad o Gyfrifon Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) ar gyfer 2019-20
Datganiad o Gyfrifon Awdurdod Harbwr Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun Isad ar gyfer 2019-20
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-20
2018-2019
Adroddiad Ariannol Blynyddol Gan Gynnwys Datganiad O Gyfrifon 2018-19
Datganiad cyfrifod am 2018-19 Harbyrau Dinbych Y Pysgod ac Abergwaun Isaf
2017-2018
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2017-18
Datganiad cyfrifod am 2017-18 Harbyrau Dinbych Y Pysgod ac Abergwaun Isaf
2016-2017
Tenby & Lower Fishguard Harbour Statement of Accounts 2016-17
Cwblau Datganiad O Gyfrifon 2016-2017
Ein Rhanbarth ar Waith – Consortiwm DO&CC – Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016-2017
2015-2016
Tenby & Lower Fishguard Harbour Statement of Accounts 2015-16
Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2015-16 2015-16
Cwblau Datganiad O Gyfrifon 2015-2016
Ein Rhanbarth ar Waith - Cwblau Datganiad O Gyfrifon 2015-2016
Ein Rhanbarth ar Waith – Consortiwm DO&CC – Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2015-2016
Ein Rhanbarth ar Waith - Consortiwm DO&CC - Datganiad o Gyfrifon 2015-2016
2014-2015
Ein Rhanbarth ar Waith -Consortiwm DO&CC - Datganiad o Gyfrifon 2014-2015
Datganiad LLywodraethiant Blynyddol 2014-15
Ein Rhanbarth ar Waith – Consortiwm DO&CC – Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2014-2015
Archwilio Cyfrifon
Croeso i’n harchwiliad cyhoeddus o gyfrifon ar-lein a fydd ar agor o ddydd Llun 12 Rhagfyr - Dydd Gwener 23 Rhagfyr 2022 a Dydd Mawrth 3 Ionawr - Dydd Mawrth 17 Ionawr 2023
Cyfrifon Cyngor Sir Penfro a Harbwr Cwm Abergwaun a Dinbych-y-pysgod
Mae’r ffeiliau data yma yn cynnwys y canlynol:
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Credydwyr) – Rhestr o’r taliadau a wnaed i gyflenwyr trwy’r system Taliadau Credydwyr.
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Banc) - Rhestr o’r taliadau a wnaed i gyflenwyr yn uniongyrchol drwy gyfrif banc y Cyngor.
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Cerdyn Prynu) – Rhestr o’r taliadau a wnaed i gyflenwyr trwy ddefnyddio Cardiau Prynu’r Cyngor.
- Ffeil Archwilio Dyledwyr – Rhestr o Anfonebau a anfonwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn.
- Crynodeb Aelodau – Crynodeb o Daliadau a wnaed i Gynghorwyr
I ofyn am ragor o wybodaeth, llenwch y ffurflen ymholi ganlynol a rhoi’r canlynol:
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Credydwyr) – cyfeir-rif y Daleb ac Enw’r Gwerthwr.
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Banc) – rhif cyfrif y Talai, a dyddiad y taliad.
- Archwiliad Cyhoeddus (Taliadau Cerdyn Prynu) – enw’r Cyflenwr, Cyfenw Deiliad y Cerdyn, dyddiad y Trafodiad, Mis y Taliad a Gwerth Crynswth.
- Ffeil Dyledwyr - (cyfeir-rif y Ddyled, Enw’r Dyledwr a’r Swm Crynswth)
- Crynodeb Aelodau
ERW
Mae’r ffeiliau data yma yn cynnwys y canlynol:
- Archwiliad Cyhoeddus ERW (Taliadau Credydwyr) – Rhestr o’r taliadau a wnaed i gyflenwyr drwy’r system Taliadau Credydwyr.
- Archwiliad Cyhoeddus ERW (Taliadau Cerdyn Prynu) – Rhestr o’r taliadau a wnaed i gyflenwyr trwy ddefnyddio Cardiau Prynu’r Cyngor.
- Dyledwyr ERW – Rhestr o Anfonebau a anfonwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn.
I ofyn am ragor o wybodaeth, llenwch y ffurflen ymholi ganlynol a rhoi’r canlynol:
- Archwiliad Cyhoeddus ERW A-Y (Taliadau Credydwyr) – cyfeir-rif y Daleb ac Enw’r Gwerthwr.
- Archwiliad Cyhoeddus ERW A-Y (Taliadau Cerdyn Prynu) – enw’r Cyflenwr, Cyfenw Deiliad y Cerdyn, dyddiad y Trafodiad, Mis y Taliad a Gwerth Crynswth.
- Dyledwyr ERW
Rhybudd Archwilio
Cydbwyllgor ein rhanbarth ar waith ERW: Archwilio Cyfrifon 2021-22
Cyllideb y Cyngor
Hefyd mae gennym strategaeth sy'n amlinellu ein dull o ddal a defnyddio cronfeydd.
Strategaeth ar gyfer Dal a Defnyddio Cronfeydd
Caiff cyllideb flynyddol y Cyngor ei sefydlu gan Gyngor llawn ym mis Mawrth bob blwyddyn.
Cynhyrchir adroddiad monitro integredig ar gyfer Cabinet y Cyngor ar ddiwedd pob chwarter.