Cymeradwyo Mangreoedd Bwyd

Pryd mae mangreoedd yn gorfod cael eu cymeradwyo?

Mae rhai busnesau bwyd neilltuol sy'n trin ac/neu baratoi bwydydd, sy'n cynnwys bwyd sy'n deillio o anifeiliaid e.e.  cynhyrchion cig, fel pasteiod cig neu hamiau wedi eu coginio, , cymysgeddau cig, fel selsig neu byrgyrs, briwgig, cynhyrchion llaeth fel llaeth, caws, hufen, cynhyrchion pysgod neu bysgodfeydd fel pysgod cregyn, crancod neu gimychiaid wedi eu trin, neu wyau fel gweithgynhyrchu wyau sychion neu wyau pasteuraidd hylifol, yn gorfod cael eu cymeradwyo gan Gyngor Sir Penfro.

Mae'n rhaid cael cymeradwyaeth hefyd ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud â gwahanu'n beiriannol, cigoedd, coesau llyffantod a malwod, brasterau a chriwsion toddion anifeiliaid, stumogau wedi eu trin, pledrenni a pherfeddion, gelatin a cholagen.

Dim ond y mangreoedd hynny sydd, yn bennaf, yn gwerthu'r cynhyrchion hyn yn uniongyrchol i fusnesau eraill, yn hytrach na'u gwerthu i'r defnyddiwr terfynol, sy'n gorfod cael cymeradwyaeth.

Os ydych chi'n ystyried dechrau busnes a allai fod angen ei gymeradwyo, yna rydym yn eich annog i gysylltu â Thîm Bwyd y Cyngor mewn da bryd cyn sefydlu'ch busnes.

 

ID: 1553, adolygwyd 12/10/2022