Cymeradwyo Mangreoedd Bwyd

A oes unrhyw gategorïau mangreoedd yn cael eu hesgusodi rhag cael cymeradwyaeth?

Fel y nodwyd uchod mae'n rhaid cael cymeradwyaeth ar gyfer busnesau sy'n gwerthu eu cynhyrchion i fusnesau eraill.  Mae'n ymwneud, yn bennaf, â gwneuthurwyr cynhyrchion.  Nid oes rhaid ei gael ar gyfer manwerthu bwydydd; felly os taw mangre arlwyo ydych chi neu siop fanwerthu sy'n gwerthu'r bwydydd a nodir uchod ni fyddwch yn gorfod cael eich cymeradwyo.
 
Mae rhai gwneuthurwyr hefyd yn cael eu hesgusodi rhag cael cymeradwyaeth os taw ond rhan fechan iawn o fusnes y cwmni yw cyflenwi cynhyrchion i fusnesau eraill, h.y. llai na  25%, neu yn achos cig, os byddwch chi'n ymdrin â llai na 2 dunnell o gig yr wythnos.  Hefyd mae gwerthu, i fusnesau eraill, gynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid yn gorfod digwydd yn lleol yn unig h.y. yn Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion.

Fe fydd esgusodiad ar gael hefyd i wneuthurwyr rhai cynhyrchion neilltuol sy'n cynnwys cynhyrchion prosesedig sy'n deillio o anifeiliaid a chynhyrchion sy'n deillio o blanhigion.

ID: 1554, adolygwyd 12/10/2022