Cymeradwyo Mangreoedd Bwyd

Beth fydd yn digwydd ar ôl imi anfon ffurflen gais am gymeradwyaeth?

Os gwneir cais am gymeradwyaeth, bydd un o swyddogion y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn cysylltu â'r gweithredwr busnes bwyd i drefnu arolygiad ar y busnes.  Bydd yn rhaid cynnal arolygiad ar y busnes er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion strwythurol, gweithredol, a maes rheoli diogelwch bwyd y ddeddfwriaeth berthnasol.

Os bydd popeth yn bodloni'r gofynion yna bydd y gymeradwyaeth a'r Rhif Adnabod cysylltiedig yn cael eu rhoi i'r busnes.  Fel arall, bydd y swyddog arolygu'n penderfynu ffurf a maint y gwaith sydd ei angen er mwyn bodloni'r meini prawf cymeradwyo, ac yn dweud hynny wrth y gweithredwr busnes bwyd.  Mewn rhai amgylchiadau neilltuol gall Cymeradwyaeth Amodol gael ei rhoi am gyfnod o hyd at 3 mis er mwyn i'r gwaith gael ei wneud.  Os bydd hyn yn digwydd mae gan y gweithredwr busnes bwyd hawl i gyflwyno apêl i Lys yr Ynadon.  

ID: 1557, adolygwyd 12/10/2022