Cymeradwyo Mangreoedd Bwyd
Beth mae cael cymeradwyaeth yn ei olygu?
Bydd busnesau a gymeradwywyd yn cael Rhif Adnabod sy'n unigryw i'w mangre hwy. Bydd yr wybodaeth hon yn gorfod cael ei chynnwys mewn Nod Adnabod ar labeli cynhyrchion. Mae'r nod adnabod yn cael ei gydnabod ledled Ewrop, sy'n dangos bod y cynnyrch wedi'i wneud mewn mangre a gymeradwywyd o dan ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd.
Mae mangreoedd a gymeradwywyd yn gorfod cydymffurfio â'r un ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i bob busnes bwyd, ond efallai y bydd rhaid bodloni gofynion ychwanegol hefyd - bydd hynny'n dibynnu ar y cynhyrchion penodol y maent yn ymdrin â hwy.
ID: 1555, adolygwyd 12/10/2022