Cymhorthdal Incwm
Benthyciad Cyllidebu
Gallwch wneud cais am Fenthyciad Cyllidebu i helpu i dalu am bethau hanfodol fel rhent, dodrefn, dillad neu ddyledion hurbwcasu. Mae’r swm allwch chi ei fenthyg yn dibynnu ar eich statws – os ydych yn sengl, yn rhan o bâr neu os oes gennych blant, ac os:
- allwch chi ad-dalu’r benthyciad
- oes gennych unrhyw gynilion dros £1,000 (neu £2,000 os ydych chi neu eich partner dros 62)
- oes arnoch chi eisoes arian i’r Gronfa Gymdeithasol
Ni chodir llog ar Fenthyciadau Cyllidebu felly nid oes ond rhaid i chi ad-dalu’r hyn ydych chi’n ei fenthyg. Fel rheol, mae’n rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad o fewn 104 wythnos. Gallwch ymgeisio am fenthyciad os ydych wedi bod yn derbyn budd-daliadau seiliedig ar incwm ers o leiaf 26 wythnos. Mae’n rhaid eich bod yn dal i dderbyn budd-daliadau seiliedig ar incwm pan fydd eich cais yn cael ei asesu. Ni fydd Benthyciadau Cyllidebu yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Gallwch lawrlwytho ffurflen (SF500) i wneud cais am y grant hwn o GOV.UK neu gallwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaithar 0345 603 6967