Cymhorthdal Incwm
Credyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal a delir i bobl sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ac sydd ar incwm isel.
Nid yw Credyd Pensiwn yr un fath â phensiwn ymddeol y wladwriaeth, sy’n seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol yn ystod eich bywyd gweithio. Mae’n bosibl talu Credyd Pensiwn ar ben pensiwn ymddeol a phensiynau eraill.
Mae Credyd Pensiwn yn gysylltiedig ag incwm ac mae dwy ran i’r credyd:
Credyd Gwarant – sy’n codi eich incwm os yw o dan swm penodol
Credyd Cynilion – taliad ychwanegol i bobl sydd wedi cynilo peth arian tuag at eu hymddeoliad, e.e. trwy bensiwn. Fodd bynnag, os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, mae’n bosibl na fyddwch yn gymwys i dderbyn hwn.
Mae oedran Credyd Pensiwn yn codi’n raddol i 65 yn unol ag oedran Pensiwn y Wladwriaeth (65 i fenywod a 66 i ddynion). I ddrganfod pryd fyddwch chi’n gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn neu Bensiwn y Wladwriaeth, defnyddiwch Gyfrifiannell Pensiwn y Wladwriaeth yn GOV.UK neu cysylltwch â’r llinell gymorth.
Gallech ddal i allu cael Credyd Pensiwn os yw eich incwm wythnosol yn fwy na’r isafswm, er enghraiff os oes gennych chi neu eich partner anabledd difrifol neu os ydych yn ofalwr. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys am Gymorth Llog Morgais os ydych yn talu llog ar daliadau morgais, sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch benthyciwr.