Cymhorthdal Incwm

Cynllun Incwm Isel y GIG

Os yw eich incwm yn isel a chithau’n ei chael yn anodd talu am gostau iechyd, efallai y gall Cynllun Incwm Isel y GIG eich helpu. Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am help tuag at gostau:  

  • Triniaeth ddeintyddol y GIG
  • Sbectol a lensys cyffwrdd, neu
  • Costau teithio angenrheidiol i’r ysbyty ac oddi yno am driniaeth y GIG os ydy meddyg teulu, meddyg ysbyty neu ddeintydd wedi eich atgyfeirio yno.

I wneud cais, bydd angen i chi lenwi ffurflen HC1. Mae’r ffurflen hon ar gael yn eich Canolfan Byd Gwaith leol, Ysbyty GIG, neu trwy alw Llinell Archebu Cyhoeddiadau’r GIG ar 0345 603 1108. Efallai y bydd gan rai deintyddion a meddygon gopi hefyd.

ID: 2166, adolygwyd 14/07/2022