Cymhorthdal Incwm
Taliad Tywydd Oer
Mae Taliadau Tywydd Oer yn helpu tuag at gostau gwresogi ychwanegol yn ystod tywydd oer iawn. Telir taliad o £25.00 yn awtomatig am bob cyfnod 7 niwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.
Gallwch dderbyn y taliad hwn os ydych hefyd yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (seiliedig ar incwm), Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol. Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (seiliedig ar incwm), Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm, mae’n rhaid i chi hefyd fod yn derbyn premiwm pensiynwr neu anabledd neu fod â phlentyn dan 5 sy’n anabl.
Nid yw cynilion yn effeithio ar Daliadau Tywydd Oer, ac nid ydynt yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill rydych chi’n eu cael. Fe gewch chi’r taliadau hyn yn awtomatig yn yr un ffordd â’ch budd-daliadau eraill.