Cymhorthdal Incwm

Taliadau a chynlluniau eraill

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael credydau Yswiriant Gwladol os nad ydych yn talu Yswiriant Gwladol, e.e. pan fyddwch chi’n hawlio budd-daliadau oherwydd salwch neu ddiweithdra.

Yswiriant Cenedlaethol

Gall credydau helpu i lenwi’r bylchau yn eich cofnod Yswiriant Cenedlaethol, i sicrhau eich bod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau penodol gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch gysylltu â HMRC ar 0300 200 3500 (ffontestun: 0300 200 3519) i ganfod os oes unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Cenedlaethol ac i ganfod hefyd os ydych yn gymwys.  

Green Deal

Mae Green Deal yn eich helpu i wneud gwelliannau i’ch cartref a fydd yn arbed ynni a chanfod y ffordd orau i dalu amdanynt. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu adennill arian o’r llywodraeth os ydych yn gwneud gwelliannau i’r cartref sy’n arbed ynni drwy Gronfa Gwelliannau i’r Cartref Green Deal. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor ar Arbed Ynni am ragor o wybodaeth am hyn neu unrhyw faterion arbed ynni eraill ar  0300 123 1234.

Rhyddhau ecwiti

Mae cynlluniau rhyddhau ecwiti’n cynnig cyfle i berchnogion cartref hŷn gael arian am rywfaint o werth eu cartref. Gall hwn fod yn gyfandaliad neu’n daliadau rheolaidd. Cyn i chi gymryd rhan mewn cynllun Rhyddhau ecwiti rhaid i chi ofyn am gyngor ariannol a chyfreithiol annibynnol er mwyn sicrhau mai dyma’r ffordd orau o wneud i’ch arian weithio i chi. 

Cymorth ariannol i fyfyrwyr anabl

Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) yn helpu gyda chostau a wynebwyd wrth ddilyn cyrsiau cydnabyddedig mewn prifysgol, a hynny’n uniongyrchol o ganlyniad i anableddau. Mae’r Lwfansau ar gael i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser sydd ag anableddau ond rhaid i fyfyrwyr rhan-amser fod yn astudio 50% o gwrs amser llawn. Mae’r Lwfansau ar gael i israddedigion a graddedigion. Gweler GOV.UK

ID: 2173, adolygwyd 11/08/2022