Cymhorthdal Incwm
Taliadau Angladdau
Mae Taliad Angladd yn helpu pobl sydd ar incwm isel â chostau hanfodol angladd. Gallwch hawlio Taliad Angladd os ydych chi neu eich partner yn cael Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (seiliedig ar incwm), Credyd Pensiwn, Credyd Treth Gwaith lle mae elfen o anabledd neu anabledd difrifol yn rhan o’r budd-dal, Credyd Treth Plant ar gyfradd uwch na’r elfen deulu, neu Fudd-dal Tai.
Nid yw cynilion yn effeithio ar Daliadau Angladd, ac ni fydd hawlio Taliad Angladd yn effeithio ar fudd-daliadau eraill.
Gallwch lawrlwytho ffurflen (SF200) i wneud cais am y grant hwn o GOV.UK
ID: 2170, adolygwyd 11/08/2022