Pegiau Doli Mae’r rhain yn osgoi’r angen am wasgu pegiau dillad. |
|
Fforch Arddio Easi Grip Dyluniad ergonomig sy’n cadw’ch llaw a’ch arddwrn mewn safle naturiol sydd mor esmwyth â phosibl. |
Os ydych chi’n cael trafferth codi tegell, gall y teclyn hwn leihau risg llosgiadau neu anafiadau trwy osod plât gogwyddo diogel o dan y tegell (neu o dan waelod tegell heb fflecs). |
|
Llanwch y jwg â dŵr oer, rhowch y peiriant ymlaen a bydd dŵr poeth ar gael ar unwaith – bob awr o bob dydd dim ond ichi wasgu un botwm, heb angen codi tegell trwm! |
|
Tegell Teithio Tegell llai ac ysgafnach na thegell cegin arferol. |
|
Agorwr Jariau (One Touch Jar Opener) Rhowch hwn ar ben y jar a gwasgwch y botwm i agor y jar heb straen. |
|
Agorwr Caniau (One Touch Can Opener) Mae hwn yn agor caniau heb straen. |
|
Agorwr Jariau a Photeli (Universal Jar and Bottle Opener) Mae’r teclyn hwn â’i fraich hir i hwyluso’r troi, yn ddelfrydol ar gyfer agor jariau a photeli gwahanol eu maint os yw eich gafael yn wannach nag y bu. |
|
Agorwr Jariau wedi’i Ffitio (Under Cabinet Jar Opener) Mae gan y ddyfais hon leinin gwrthlithro a gellir ei ffitio o dan gwpwrdd cegin neu ar arwyneb tebyg, er mwyn galluogi pobl sydd â llai o symudiad yn eu dwylo neu bobl y mae gafael eu llaw yn wan i agor jariau a photeli o wahanol feintiau yn fwy hwylus. |
|
Can be used to aid opening of jars and bottles in conjunction with an anti-slip mat for added stability. |
|
Agorwr Poteli (One Touch Bottle Opener) Mae’r agorwr awtomatig hwn yn ffitio top pob potel. Gosodwch y teclyn ar ben y botel a rhoi’r clampiau yn erbyn y top. Bydd y teclyn yn gafael yn y top ac yn ei droi a’i agor, dim ond i chi wasgu’r botwm. |
|
Spill Not Mae’r deunydd gwrthlithro yn gafael yn gadarn mewn ystod eang o jariau a photeli. Mae’n addas i’w ddefnyddio ag un llaw. |
|
Teclyn defnyddiol i bobl sydd ag arthritis, mae ganddo handlen fawr sy’n ddelfrydol i bobl y mae gafael eu llaw yn wan. Nid yw’n gofyn am lawer o ymdrech, mae’n gweithio’n syml ac yn cadw’r dwylo i ffwrdd o ymylon miniog. |
|
Scrap Trap Crafwch eich gweddillion i mewn i’r bin yn hytrach na cheisio eu codi. |
|
Bwrdd Paratoi Bwyd Bwrdd torri cryf sy’n ddelfrydol i bobl sy’n cael trafferth gafael mewn eitemau, neu sydd ond yn gallu defnyddio un llaw. Gall y clamp ddal eitemau fel tuniau neu bowlenni yn eu lle, ac mae’r pigau dur gwrthstaen yn dal llysiau’n llonydd ar gyfer eu crafu neu eu torri. Mae gan y bwrdd bedair troed rwber gwrthlithro i’w atal rhag symud ac i ddarparu diogelwch ychwanegol. Darperir padiau sugno hefyd i’w defnyddio ar arwynebau gwlyb. |
|
Bwrdd Taenu ag Un Llaw Mae’r bwrdd hwn, sydd â chynllun taclus iawn, yn gorwedd yn wastad ar fwrdd neu arwyneb gwaith i ddarparu sylfaen ddefnyddiol a diogel ar gyfer taenu menyn, jam a bwydydd eraill ar dost, bara, bara crimp ac eitemau tebyg. Mae’n ddelfrydol i lawer o bobl oedrannus neu anabl, ac mae’n ffordd syml iawn o wella annibyniaeth y sawl sy’n ei ddefnyddio. |
|
Torrwr Trydan Bach (Electric Mini Food Chopper) Dyfais gyffredin ar gyfer torri a deisio amrywiaeth o fwydydd. |
|
Torrwr Llaw (Manual Food Chopper) Cymysgu, torri, stwnsio a blendio yn syml ac yn ddiogel trwy dynnu cordyn yn unig! |
|
Mae’r ddyfais hon yn dal ffrwythau a llysiau crwn fel afalau a thatws ac yn eu plicio/crafu. |
|
Cyllell Easi Grip Carn y gellir ei ddal yn gyfforddus yn y naill law neu’r llall. Mae’n cadw’r llaw a’r arddwrn mewn safle niwtral heb straen. |
|
Mae hwn yn ffitio’n gyfforddus yng nghledr eich llaw dde neu’ch llaw chwith i grafu/blicio ffrwythau a llysiau. |
|
Mae’n bosibl defnyddio matiau gwahanol eu maint o amgylch y cartref - ar arwynebau gwaith yn y gegin i’ch helpu i dorri bwyd ac agor jariau a photeli, ar hambyrddau bwyd neu fel mat gwrthlithro ar y llawr pan fyddwch yn codi o’ch cadair. Mae’r matiau ar gael ar rolyn y gallwch ei dorri i’r union faint sydd ei angen arnoch. |
|
Mae gwahanol gynnych ar y farchnad sy’n gwneud torri a deisio llysiau yn haws ac yn fwy diogel. |
|
Ffordd arall o dorri a pharatoi bwyd os ydych chi’n cael trafferth dal cyllell gegin draddodiadol. Mae’r teclyn hwn yn caniatáu i chi ddefnyddio dwy law i’w siglo o ochr i ochr. |
|
Arllwyswr Potel Laeth Ar gael mewn lliwiau sy’n cyd-fynd â’r math o laeth (e.e. un gwyrdd ar gyfer llaeth hanner sgim), mae’r teclyn hwn yn ffitio’r rhan fwyaf o boteli llaeth plastig o wahanol feintiau ac yn ei gwneud yn haws i rai pobl oedrannus ac anabl gael llaeth. Dim rhagor o lacio a thynhau topiau poteli plastig dro ar ôl tro. |
|
Staybowlizer Mae hwn yn dal eich powlen gymysgu yn llonydd tra byddwch yn coginio. Rhowch eich powlen ar ben y Staybowlizer a gwasgu i’w sugno a’i ddal yn ei le ar y bwrdd neu’r arwyneb gwaith. ‘Does dim angen dal y bowlen tra byddwch yn curo wyau neu’n chwipio hufen, bydd yn aros yn ei hunfan. Mae’n addas ar gyfer y rhan fwyaf o feintiau powlenni ac mae’n ddefnyddiol hefyd o ran cadw eich pryd yn ddiogel ar y bwrdd wrth i chi fwyta. |
|
Basged Goginio Gallwch ddefnyddio’r fasged goginio hon i godi cynnwys eich sosban yn hwylus ac yn ddiogel heb orfod codi holl bwysau’r sosban ei hun, gan leihau’r ymdrech a lleihau risg sgaldiadau, llosgiadau a damweiniau. |
|
Sosban Eazi®grip A ydych chi’n cael trafferth codi sosbenni trwm? Mae gwyddonwyr wedi profi bod codi offer coginio Eazi®grip yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfforddus. Mae’r goes ar ongl o 42° i’ch annog a’ch cynorthwyo i’w dal yn ddiogel. Wrth i chi godi’r sosban, bydd eich arddwrn yn aros yn syth a byddwch yn defnyddio cyhyrau blaen eich braich i gynnal y pwysau, gan leihau’r straen ar y dwylo a’r arddyrnau. Yn wahanol i sosbenni eraill, mae dau hidlydd wedi’u gosod yn y clawr. |
|
Daliwr Coes Sosban Mae slot ar gyfer coes sosban yn cadw’r sosban yn sefydlog ac yn llonydd tra byddwch yn troi’r cynnwys. Mae’r daliwr coes sosban yn ddelfrydol felly ar gyfer coginio ag un llaw ac yn gymorth diogelwch ardderchog yn y gegin hefyd gan helpu i atal risg arllwysiadau a sgaldiadau. Mae cwpanau sugno syml yn glynu’r daliwr yn ddiogel wrth y rhan fwyaf o arwynebau felly nid oes gofyn defnyddio offer na glud. |
|
Sosbenni Dwy Ddolen A ydych yn ei chael yn anodd codi sosbenni trwm? Mae defnyddio dwy law i godi a chario sosban yn lleihau'r risg o anaf a sgaldio trwy ddosbarthu'r pwysau yn fwy cyfartal rhwng y ddwy law.
|
|
Sosban stemio Dewis ysgafn yn lle sosbenni trwm a ffordd iach o baratoi pysgod neu lysiau. |
|
Cwcer Wyau Dull cyflym a hawdd o ferwi neu botsio wyau, gyda meintiau ac amseroedd coginio gwahanol ar gael. Yn ogystal, mae cwcers wyau ar gyfer y popty micro-don ar gael. |
Bag ffa sy’n Silff Lyfrau A ydy dal llyfr yn mynd yn anodd? Beth am ei orffwys ar y glustog hon? |